Arweiniad ffosffad
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd ym Mhowys a ffosffadau
Ar 21 Ionawr 2021, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru becyn tystiolaeth yn amlinellu lefelau ffosffadau ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd yng Nghymru:
Fe welwch fap sy'n dangos dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd yma:
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno cyngor cynllunio i Awdurdodau Cynllunio Lleol y mae'n rhaid i ymgeiswyr o fewn y dalgylchoedd hyn hefyd eu dilyn:
Yn ôl canllawiau cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru, rhaid i gynigion i ddatblygu yn nalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd ddangos niwtralrwydd neu welliant yn lefelau ffosfad.
Wrth gydymffurfio â'i ddyletswyddau dan Reoliadau Cynefinoedd 2017 (fel y'i diwygiwyd), ni fydd Awdurdod Cynllunio Powys yn gallu cefnogi ceisiadau na fydd yn dangos niwtralwyrdd neu welliant yn lefelau ffosfad yn bendant, oherwydd eu heffaith annerbyniol ar Ardal Gadwraeth Arbennig Afonydd.