Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwarchod y Cyhoedd Polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth

6. Cynghori ar y rheolau

6.1    Bydd cyngor i fusnesau'n cael ei roi'n rhagweithiol a hefyd wrth ymateb i geisiadau penodol am arweiniad.  Byddwn yn rhoi'r cyngor hwn mewn ffordd glir ac mewn iaith syml gan ei gadarnhau'n ysgrifenedig os gofynnir am hynny.  Byddwn yn gwahaniaethu'n glir rhwng y gofynion cyfreithiol ac arfer gorau, codau ymarfer, canllawiau, a chyngor arall.

6.2    Anogir swyddogion i hyrwyddo cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol drwy godi ymwybyddiaeth o'r safonau a'r gofynion cyfreithiol perthnasol, a gwneir hyn drwy ryddhau datganiadau i'r cyfryngau, dosbarthu taflenni, ar y cyfryngau cymdeithasol, cyswllt wyneb yn wyneb a thrwy bartneriaethau busnes a chymunedol.

6.3    O ran cynnig cyngor i fusnesau, bydd Powys yn gwneud hynny'n ddiymdroi. Bydd y busnesau y mae gan y Cyngor gytundeb Prif Awdurdod â nhw'n cael blaenoriaeth pan fydd galwadau trwm ar adnoddau staffio prin.  Bydd trefniadau Prif Awdurdod gan awdurdodau lleol eraill yn cael eu parchu.

6.4    Mae'r Gwasanaeth yn cadw at 'reolau aur' y Llywodraeth o ran rhoi arweiniad ar reoleiddio, gan nodi y dylai fod:

  • Yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda o ddefnyddwyr
  • Wedi'i ddylunio gyda mewnbwn gan ddefnyddwyr a'u cynrychiolwyr
  • Wedi'i drefnu o gwmpas ffordd y defnyddiwr o feddwl
  • Yn hawdd i ddarpar-ddefnyddwyr ei ddeall
  • Wedi'i ddylunio i roi hyder i ddefnyddwyr gyda sut i gydymffurfio â'r gyfraith (h.y. dim defnyddio ymwrthodiad atebolrwydd cyfreithiol)
  • Cael ei roi mewn da bryd
  • Yn hawdd cael gafael arno
  • Cael ei adolygu a'i wella

6.5    Fel arfer, gall busnesau sy'n cysylltu â'r Gwasanaeth am gyngor ar unrhyw ddiffyg cydymffurfio wneud hynny heb fod ag ofn cychwyn unrhyw gamau gorfodi awtomatig.  Er hynny, bydd adegau yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn 2.4 uchod, neu pan fydd hanes o ddiffyg cydymffurfio neu pan ystyrir bod angen, ac ar ôl ystyried y mater yn ddyledus, pryd y bydd camau gorfodaeth yn anochel.