Gwarchod y Cyhoedd Polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth
2. Amcanion ein gwasanaethau
2.1 Y Blaenoriaethau Gorfodaeth Cenedlaethol ar gyfer Cymru yw:
- Gwarchod unigolion rhag niwed a hybu gwella iechyd.
- Sicrhau diogelwch ac ansawdd y gadwyn fwyd i leihau risg i iechyd pobl ac anifeiliaid;
- Hyrwyddo amgylchedd masnachu teg a chyfiawn i bobl a busnesau;
- Gwella'r amgylchedd lleol er mwyn cael dylanwad da ar ansawdd bywyd a hyrwyddo cynaliadwyedd.
2.2 Mae Cyngor Sir Powys yn mabwysiadu'r blaenoriaethau hyn er mwyn gwarchod iechyd, diogelwch a lles economaidd y bobl sy'n byw, gweithio neu'n ymweld â'r Sir gan geisio cynnal, ar yr un pryd, marchnad deg a chystadleuol lle gall busnesau cyfreithlon ffynnu. Mae ein camau gweithredu hefyd yn cyd-fynd a Chynllun Corfforaethol Cyngor Sir Powys[1]. Dywedwn y bydd gweithgareddau gorfodi teg a chymesur yn helpu i hyrwyddo busnes da ac y bydd rheoleiddio da, wedi'i orfodi'n deg, yn cefnogi busnesau cyfreithlon a'u helpu i dyfu. Bydd y camau a gymerwn hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein preswylwyr mewn achosion lle'r ydym yn ymyrryd, er enghraifft i helpu pobl fregus, mewn materion iechyd a diogelwch, materion bwyd a diogelwch cynhyrchion.
2.3 Ymdrechwn yn rhagweithiol i annog cydymffurfio â'r gyfraith, gan weithio gyda busnesau ac unigolion i hyrwyddo'r nod hwn drwy:
- ddarparu cyngor ac addysg;
- archwilio, ar sail gwybodaeth deallus, i sicrhau bod busnesau ac unigolion yn cydymffurfio; ac
- ymateb yn gymesur os torrir y rheoliadau.
Ein pwrpas yn y pen draw yw sicrhau 'marchnad' sy'n gweithio'n effeithiol a bod sylw'n cael ei roi i unrhyw risg i iechyd a lles cymdeithasol ac economaidd. Pan fo'r pwrpas hwnnw'n cael ei danseilio, defnyddiwn ein pwerau cyfreithiol i weithredu i ddatrys unrhyw sefyllfa anfoddhaol a sicrhau bod y rhai sy'n torri'r rheolau'n cael eu dal i gyfrif. Dyma beth a olygir wrth y term camau gorfodi.
2.4 Ymrwymwn i weithredu'n bendant yn y sefyllfaoedd canlynol:
- Yn erbyn rhai sy'n diystyru'r gyfraith neu sy'n fwriadol neu'n barhaus yn methu â chydymffurfio;
- Lle mae risg ddifrifol neu ar unwaith i iechyd a diogelwch; a
- Lle mae angen gwarchod pobl fwy bregus yn ein cymunedau rhag cael niwed.
[1] Cryfach, Tecach, Gwyrddach - Ein Cynllun Corfforaethol - Cyngor Sir Powys