Ceisiadau ar gyfer ysgolion cynradd ac iau ar agor
3 Hydref 2022
Mae gan rieni neu ofalwyr tan ddydd Gwener 6 Ionawr 2023 i anfon cais.
Dywedodd y Cyng Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn annog pob rhiant/gofalwr i lenwi'r ffurflen gais yma cyn gynted â phosibl er mwyn cael lle mewn ysgol gynradd neu iau ym mis Medi 2023.
"Os na fydd wedi'i llenwi mewn pryd, gallai olygu na fydd eu plentyn yn cael lle yn yr ysgol o'u dewis."
Dylai rhieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein yn Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol erbyn dydd Gwener 6 Ionawr 2023.
Os nad ydych yn gallu gwneud hynny ar-lein, cysylltwch â admissions@powys.gov.uk
Os nad ydych yn byw yn agos at ysgol, efallai y bydd eich plant yn gymwys i gael cludiant am ddim. Mae'r meini prawf yn wahanol ar gyfer gwahanol fathau o ysgolion, felly gwiriwch yn ofalus i ddarganfod a ydych chi'n gymwys ai peidio trwy ddarllen y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, sydd ar gael ar dudalen: Gwneud Cais am Gludiant Ysgol