Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Contract Meddiannaeth?

Yr hen enw ar Gontract Meddiannaeth oedd cytundeb tenantiaeth.

Cytundeb Diogel fydd eich Contract Meddiannaeth, sy'n rhoi mwy o ddiogelwch a sicrwydd ichi. Fodd bynnag, os taw ymgeisydd digartref ydych mewn llety dros dro, bydd eich contract meddiannaeth yn gytundeb safonol. 

Bydd y landlord yn rhoi eich Contract Meddiannaeth ichi. 

Bydd y Contract yn egluro'r hyn y gallwch ei wneud a'r hyn nad ydych yn gallu ei wneud, a'r hyn mae'r landlord yn gallu ei wneud a'r hyn nad yw'n gallu ei wneud. 

Bydd y Contract yn cynnwys: 

  • Enwau'r sawl sy'n rhentu, a chyfeiriad yr eiddo sy'n cael ei rentu. 
  • Hawliau a chyfrifoldebau, er enghraifft, pwy sy'n gyfrifol am drwsio pethau yn eich cartref. 
  • Agweddau dydd i ddydd, er enghraifft, hysbysu'r landlord os na fydd rhywun adref am gyfnod o 4 wythnos neu fwy. 
  • Gwybodaeth arall, er enghraifft, os ydych chi'n cael cadw anifeiliaid anwes ai peidio. 
  • Gallwn drefnu argraffu ac anfon y Contract atoch trwy'r post, neu gallwn ei ebostio atoch, yn dibynnu ar eich dewis chi. 
  • Dylech arwyddo'r contract os ydych chi'n hapus gyda'r cynnwys.