Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Wythnosau olaf casglu gwastraff o'r ardd yn 2022

Image of someone raking autumn leaves

7 Tachwedd 2022

Image of someone raking autumn leaves
Dyma atgoffa trigolion a'r rhai sydd wedi cofrestru i gasglu gwastraff o'r ardd mai dim ond rhai wythnosau sydd ar ôl eleni i gasglu eich gwastraff.

I weld pryd mae'r dyddiadau casglu nesaf, edrychwch ar sticer aelodaeth 2022 sydd ar eich bin gwyrdd, neu ewch i Diwrnod casglu biniau

Bydd modd tanysgrifio ar gyfer gwasanaeth 2023 eto ym mis Ionawr, gyda'r gwasanaeth yn ailgychwyn ar ddiwedd mis Chwefror 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae nifer ohonym yn brysur yn yr ardd yr adeg hyn o'r flwyddyn yn tacluso ar ôl yr haf ac yn paratoi at y gwanwyn.  Gyda'r tywydd yn dal i fod yn fwyn, rydym yn dal i fod yn torri'r borfa.  Felly rydym yn awyddus i atgoffa trigolion i wneud yn fawr o'r cyfle sydd ar ôl i gael gwared ar wastraff o'r ardd yn 2022.

"Hyd yma eleni, gyda help aelwydydd sydd wedi cofrestru, rydym wedi casglu miloedd o dunelli o wastraff o'r ardd a'i ailgychu'n gompost.

"Gyda'r gaeaf ar ein gwarthaf a'r gwastraff o'r ardd yn lleihau, mae'r gwasanaeth yn cymryd egwyl dros y gaeaf, ond gallwch barhau i ailgylchu eich gwastraff trwy ei droi'n gompost eich hun neu fynd ag ef i un o'n canolfannau gwastraff ac ailgylchu ym Mhowys."

Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff o'r ardd, ewch i: Casglu gwastraff o'r ardd