Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau Cyffredin am Ddatblygu Tai

Beth yw tai fforddiadwy?

Diffinnir tai fforddiadwy gan Lywodraeth Cymru fel tai a ddarperir i'r rhai nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y farchnad agored. Dylai tai fforddiadwy ddiwallu anghenion aelwydydd cymwys, gyda rhent sy'n ddigon isel i'r aelwydydd hynny ei fforddio.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Beth mae rhent cymdeithasol yn ei olygu?

Mae rhent cymdeithasol neu dai rhent cymdeithasol yn cyfeirio at dai fforddiadwy a ddarperir gan y Cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC). Pennir lefelau rhent yn unol â Safon Rhent a Thâl Gwasanaeth Llywodraeth Cymru.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Beth mae rhent canolradd yn ei olygu?

Mae rhent neu dai canolradd yn gategori arall o dai fforddiadwy lle mae prisiau neu renti yn uwch na rhai tai rhent cymdeithasol ond yn is na phrisiau neu renti tai ar y farchnad agored. Nid yw Cyngor Sir Powys yn darparu rhent neu dai canolradd, er efallai y gallech gael hyn drwy Tai Teg. Ewch i'w gwefan i ganfod mwy: https://taiteg.org.uk/cy

Yn ôl i frig y tudalen

 

Sut mae gwneud cais am dŷ a ddarperir gan y Cyngor?

Gallwch wneud cais i ymuno â'r gofrestr tai gyffredin ym Mhowys drwy wefan Cartrefi ym Mhowys: https://www.homesinpowys.org.uk/

Gwneud cais am dŷ cymdeithasol

Yn ôl i frig y tudalen

 

Beth mae Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn ei olygu?

Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) yn landlordiaid cymdeithasol sy'n berchen ar dai cymdeithasol neu'n eu rheoli, ac mae'n rhaid iddynt fod wedi'u cofrestru a'u rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhan fwyaf o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Gymdeithasau Tai.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Alla' i brynu tŷ gan y Cyngor?

Na allwch, ond mae cynlluniau ar gael i'ch helpu i brynu eich cartref cyntaf. Ewch i wefan Tai Teg am fwy o wybodaeth: https://taiteg.org.uk/cy/schemes

Yn ôl i frig y tudalen

 

Beth yw Cartrefi ym Mhowys?

Mae Cartrefi ym Mhowys yn ddull o wneud cais i ymuno â'r Gofrestr Tai Gyffredin ar-lein, ac mae'n rhoi arweiniad a gwybodaeth i bobl ynghylch tai fforddiadwy sydd ar gael ar draws Powys.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Pam nad oes unrhyw ddatblygiadau yn fy ardal i?

Mae'r Tîm Datblygu Tai yn ystyried lleoliad datblygiadau tai ar draws Powys yn seiliedig ar nifer o ffactorau, ac un o'r rhai pwysicaf yw tystiolaeth o angen tai yn y gymuned a bod tir addas ar gael i'w ddatblygu.

Rydym yn defnyddio data o Gofrestr Tai Cyffredin Powys i sefydlu'r angen am dai ar draws y sir, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd sydd â'r angen mwyaf am dai ac ar argaeledd tir. Mae hyn hefyd yn ein galluogi i gymryd i ystyriaeth y math o angen am dai sydd yn yr ardal, a'r tir sydd ar gael i'w ddatblygu.

Rhaid i'r Tîm Datblygu Tai ystyried cyfyngiadau posibl ar gael caniatâd cynllunio a allai atal neu arafu datblygiadau preswyl, megis mynediad addas i'r tir, cyfyngiadau draenio a lefelau ffosfforws yn Afon Gwy ac Wysg. Ewch i'r dudalen hon i ganfod mwy: Ffosffadau yn atal datblygiad yn ne-ddwyrain Powys

Yn ôl i frig y tudalen

 

Sut ydw i'n cysylltu â'r Adran Tai ym Mhowys?

Gallwch gysylltu â'r Gwasanaethau Tai drwy e-bost yn: housing@powys.gov.uk neu dros y ffôn: 01597 827464.

Yn ôl i frig y tudalen