Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Gwybodaeth ar gyfer Newydd-ddyfodiaid o Wcráin

Mae Powys yn estyn croeso cynnes i'r rhai sy'n cyrraedd o Wcráin.

I gael help i wneud cais i ddod i'r Deyrnas Unedig, ffoniwch +44 808 164 8810 (0808 1648810 os ydych yn y DU, os na allwch gysylltu â rhifau 0808, ffoniwch +44 (0) 175 390 7510)

Llinell gymorth genedlaethol (am ddim) i noddwyr a ffoaduriaid (ar gael rhwng 8am ac 8pm, 7 diwrnod yr wythnos): 0808 175 1508

Os ydych chi wedi cyrraedd y DU o Wcráin yn ddiweddar, croeso i Bowys. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennych chi'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi.

Os oes gennych unrhyw faterion neu bryderon, anfonwch e-bost atom yng Nghyngor Sir Powys yn ukraine.enquiries@powys.gov.uk

neu ffoniwch Linell Gymorth Wcráin: 0800 148 8586

Dechrau arni

Canllaw Croeso Wcráin (PDF, 4 MB)  Mae'r ddogfen hon ar gael yn y Saesneg yn unig.

Croeso i Arweinlyfr Powys (PDF, 6 MB) 

Mynnwch help os ydych yn Wcreineg sy'n dod i Gymru | LLYW.CYMRU

Cymorth fisa y DU i wladolion Wcrain - GOV.UK (www.gov.uk)

Canllaw i Fyw yn y DU - Saesneg, Wcreineg a Rwsieg - https://ukrainianswelcome.org/help-topic/general-information/

Canllawiau'r Llywodraeth

Mae eich awdurdod lleol yn gyfrifol am:

  • Cofrestru plant gydag ysgolion
  • Darparu cyngor ar wasanaethau cymorth i deuluoedd, megis cymorth gyda chostau gofal plant dosbarthiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).
  • Gweithio gyda byrddau iechyd lleol i gyfeirio cyngor a llwybrau atgyfeirio at wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol fel y bo'n briodol, er enghraifft ar gyfer brechiadau neu sgrinio TB.
  • Dylid darparu cyngor ar wasanaethau cymorth pellach fel sefydlogi cychwynnol, cwnsela a chymorth iechyd meddwl, gofal cymdeithasol oedolion, a gwasanaethau plant yn ôl yr angen.
  • Trefnu apwyntiadau Canolfan Byd Gwaith lleol ar gyfer asesiadau budd-daliadau, gan gynnwys taliadau brys tra bod unrhyw fudd-daliadau'n cael eu trefnu.

Cymorth Ariannol

Canllaw Gwybodaeth Budd-daliadau (PDF, 85 KB) 

I gael help gyda budd-daliadau, os oes angen, gallwch chi/eich gwesteion gael cymorth gan Dîm Cyngor Ariannol Powys, drwy ffonio 01597 826618 neu ein tudalennau gwe https://cy.powys.gov.uk/gyngorararian.

Gall Swyddogion Cyngor Ariannol helpu gyda'ch holl anghenion ariannol a gallant gynnig cymorth ac arweiniad i hawlio unrhyw fudd-dal. Gallant hefyd helpu gyda chymorth a chyngor ariannol parhaus. Gall y swyddog gwneud galwad cynhadledd gyda gwasanaethau cyfieithu hefyd.

Neu gallwch chi/eich gwesteion gael cymorth gan Gyngor ar Bopeth Powys ar 0800 0241220.

Bydd angen ichi agor cyfrif banc yn y DU i dderbyn arian gan y llywodraeth. Yn y DU hon, gelwir y taliadau hyn yn fudd-daliadau. Mae yna amrywiaeth o fanciau, a gallwch ddewis yr un sydd fwyaf addas i chi. Mae yna hefyd ddarparwyr bancio ar-lein yn unig y gallwch eu defnyddio.

Bydd angen i chi ddangos prawf o bwy ydych chi i agor cyfrif banc yn y DU, megis:

  • pasbort,
  • statws mewnfudo,
  • trwydded yrru, neu
  • cerdyn adnabod cydnabyddedig.

Mae angen prawf o gyfeiriad parhaol arnoch hefyd.

Mae sawl banc wedi dechrau cynnig cyfrifon banc arbennig am ddim i ffoaduriaid o Wcrain. Mae banciau sy'n darparu llwybr carlam ar hyn o bryd i Wladolion Wcráin agor cyfrif banc yn cynnwys:

Gwybodaeth Iechyd

Bydd eich teulu yn gallu cofrestru gyda'r meddyg teulu lleol. Dylai meddygon teulu fod wedi cael gwybod eich bod wedi cyrraedd a dylent drefnu i gynnal, neu drefnu, gwiriad sgrinio 'manwl' a hefyd darparu gwybodaeth am unrhyw frechiadau angenrheidiol, gan gynnwys Covid19.

Sane Ukraine - Iechyd Meddwl Cymheiriaid/Cymorth, cyfarfod trawma a gwytnwch dyddiol ar-lein am ddim i ddinasyddion Wcráin i roi cyfle iddynt sgwrsio â phobl sy'n profi'r un pethau. Mae'r sesiynau yn 45 munud o hyd.

Mae cymorth ychwanegol i'w ganfod fan hyn:  Cymorth gyda Iechyd Meddwl - Cyngor Sir Powys

Gweithio yn y DU

Unwaith y byddwch wedi'ch cyflogi, caiff eich hawliau fel gweithiwr eu diogelu gan gyfraith y DU.

Daw rhai hawliau i rym ar unwaith, mae rhai yn amodol ar ba mor hir y byddwch yn gweithio. Dylech ddisgwyl y canlynol gan eich cyflogwr. Dyma eich hawliau cyflogaeth.

Mae gennych hawl i:

  • cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • egwyl ac amser i ffwrdd
  • gweithio ar wyliau â thâl
  • slip cyflog eitemedig
  • dim ond didyniadau teg a chyfreithlon o'ch cyflog
  • amgylchedd gwaith diogel
  • tâl salwch
  • copi o'ch telerau ac amodau

Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau fel gweithiwr yn y DU

Gyrru yng Nghymru

Os ydych wedi dod â cherbyd i Gymru, a'i fod wedi'i drethu a'i gofrestru yn Wcráin, nid oes angen ichi:

  • Datgan y cerbydau i'r tollau, neu
  • Talu unrhyw doll tollau, neu fewnforio TAW ar y cerbyd.

Caniateir hyn o dan y weithdrefn 'Derbyn Dros Dro (TA)'. O dan hyn, rhaid peidio â newid nwyddau neu eiddo a fewnforir (ond gellir eu trwsio), a rhaid eu hail-allforio o fewn amser penodol (6 mis fel arfer). Ond gall bobl o Wcráin sydd yng Nghymru am fwy na 6 mis wneud cais am estyniad (am hyd at 3 blynedd).

I wneud hyn rhaid i chi anfon e-bost at ntis@hmrc.gov.uk ac anfon copi o'r Drwydded Preswylio Biometreg, neu unrhyw dystiolaeth arall o ganiatâd i aros yng Nghymru, atynt.

Mae rhagor o wybodaeth am yrru ar gael yma: gyrru yn y DU

Cefnogaeth Ychwanegol

Rydyn ni eisiau darparu cefnogaeth i bobl o Wcráin sy'n byw ym Mhowys -

Rydym yn cynnal y sesiynau galw heibio gwesteiwr/cyfeillgar i westeion isod mewn llyfrgelloedd lleol lle gallwch gael cymorth a gwybodaeth:

Am fwy o wybodaeth E-bostiwch Gyngor Sir Powys ar ukraine.enquiries@powys.gov.uk

Symud ymlaen 

Os ydech yn bwriadu symud o gwesteiwr/noddwr ond eisiau aros ym Mhowys  CANLLAW I RENTU LLETY (PDF, 1021 KB)

.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu