Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhent a Thaliadau Gwasanaeth - Cwestiynau ac Atebion

Pam bod fy nhâl gwasanaeth wedi newid?

Seilir taliadau gwasanaeth ar wir gost darparu gwasanaethau atodol i'ch cartref sy'n ychwanegol i'r ddarpariaeth sylfaenol o ran gwaith cynnal a chadw, rheoli, a buddsoddiad hirdymor. Mae'r costau hyn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, felly byddwn yn newid y tâl gwasanaeth i gyfateb i'r gost o ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Pam nad ydw i wedi cael gwybod am fy nghost carthffosiaeth yn newid?

Ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol arbenigol, mae'r polisi ynghylch Taliadau Carthffosiaeth yn cael ei adolygu a byddwch yn cael eich hysbysu o'r tâl ar neu cyn 1 Mawrth 2024.

Pam fy mod i'n talu tâl gwasanaeth ar gyfer lifft nad wyf fyth yn ei ddefnyddio?

Darperir lifftiau mewn blociau i bawb eu defnyddio. Mae'r tâl gwasanaeth yn talu'r gost o ddarparu a chynnal a chadw'r lifft, a gall unrhyw denant ei ddefnyddio. Os bydd lifft ar gael mewn bloc, disgwylir i'r holl gartrefi yno gyfrannu at y gost o ddarparu'r cyfleuster pwysig hwn.

Rwyf yn talu trethi dŵr, felly pam mae gofyn imi dalu tâl gwasanaeth i'r Cyngor am garthffosiaeth?

Mae'r trethi dŵr ar gyfer cyflenwi dŵr ffres yn unig, ac nid ar gyfer carthffosiaeth. Caiff eich carthffosiaeth ei brosesu trwy system sy'n eiddo i'r Cyngor, nid y cwmni dŵr. Mae angen i'r Cyngor adfer y gost o ddarparu'r gwasanaeth hwn ichi.