Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd 2023

Image of a green garden waste bin

14 Chwefror 2023

Image of a green garden waste bin
Mae cyfle i drigolion Powys gofrestru nawr am wasanaeth hawdd, glân a syml y tymor hwn i gasglu gwastraff o'r ardd i'w ailgylchu.

Gallwch gofrestru am y gwasanaeth hwn ar gyfer tymor 2023 trwy fynd i Casglu gwastraff o'r ardd

Y gost am y flwyddyn fydd £40 sy'n cynnwys llogi bin 240 litr ar olwynion a chasglu eich gwastraff o'r ardd bob pythefnos rhwng 27 Chwefror a 1 Rhagfyr.  Gydag ugain o gasgliadau posibl, bydd y gwasanaeth yn costio dim ond £2 ar gyfer pob bin llawn wedi ei gasglu a'i ailgylchu.  Mae bin 120 litr ar gael yn rhatach i drigolion sydd â gerddi bach, neu sachau gwastraff o'r ardd y gellir eu compostio i'r rhai ohonoch sy'n gosod eich sbwriel arferol na ellir ei ailgylchu mewn sachau porffor.

Rydym eisoes wedi cysylltu â'r trigolion a ddefnyddiodd y gwasanaeth yn 2022 i'w hatgoffa i gofrestru eto am dymor arall.  Pan fyddwch wedi cofrestru ar gyfer tymor 2023, byddwch yn derbyn sticer i'w osod ar y bin gwyrdd ar olwynion i ddangos i'r criw eich bod wedi ailgofrestru.

Os ydych chi'n newydd i'r gwasanaeth, byddwch yn derbyn bin gwyrdd newydd o fewn 10 diwrnod gwaith, felly ewch ati'n gynnar i gofrestru er mwyn elwa o'r gwasanaeth a fydd yn dechrau ar ddiwedd mis Chwefror.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y Gwanwyn yn cyrraedd ac unwaith y bydd y diwrnodau'n dechrau ymestyn a'r tywydd yn troi ychydig yn fwynach, bydd nifer ohonom yn awyddus i fynd allan i'r ardd unwaith eto.

"Mae'r gwasanaeth casglu sy'n costio dim ond £2 y casgliad os bydd pobl yn cofrestru nawr, yn golygu y gallwch fanteisio ar ffordd hawdd, glân a syml o gael gwared ar wastraff o'r ardd, gan wybod y bydd yn cael ei ailgylchu a'i droi'n gompost. 

"Nid yn unig y bydd yn golygu na fydd yn rhaid i drigolion rhaid cario'r cyfan yn y car a'i wneud yn fudr, ond mae hefyd yn ffordd gynaliadwy a rhad o ailgylchu eich gwastraff o'r ardd."

Bydd trigolion sydd ddim am fanteisio ar y gwasanaeth yn gallu parhau i gompostio eu gwastraff adref neu ei gludo i un o'r pump canolfan ailgylchu ym Mhowys.

Ar ôl cofrestru ar gyfer tymor 2023, cofiwch wirio eich diwrnod casglu - efallai y bydd wedi newid ers y llynedd: Diwrnod casglu biniau