Grant Twf Busnes Powys
Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio'r grant
Bydd y grant yn berthnasol i wariant cyfalaf o fewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:
Gwariant cyfalaf:
- Prynu offer newydd neu ail law, ee offer, peiriannau, offer arbenigol, ac ati. Sylwch y gallai offer gynnwys eitemau fel tryciau efo fforch godi, telehandlers, peiriannau cloddio, ac ati. Nid yw cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir yn gymwys.** gweler y nodyn isod ynglŷn â phrynu eitemau ail law
- Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e., llochesi, gazebos, ac ati. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r caniatâd perthnasol os yw'n briodol, h.y. caniatâd cynllunio, trwyddedau, ac ati.
- Prynu offer ynni-effeithlon ee goleuadau LED, paneli ffotofoltäig solar, system storio drwy fatris, pympiau gwres ffynhonnell aer ac ati.
Offer ail law
Mae costau prynu offer ail law yn gymwys ar gyfer grant o dan yr amodau a ganlyn: -
- Rhaid i werthwr yr offer ddarparu datganiad yn nodi ei darddiad, a chadarnhau na chafodd ei brynu ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd diwethaf gyda chymorth grantiau cenedlaethol neu Ewropeaidd;
- Ni fydd pris yr offer yn fwy na'i werth ar y farchnad a bydd yn llai na chost offer newydd tebyg, a
- Rhaid i'r offer feddu ar y nodweddion technegol sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithrediad a chydymffurfio â normau a safonau cymwys, ee Iechyd a Diogelwch