Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Grant Twf Busnes

Ar ôl cwblhau - Telerau ac Amodau

Dylid nodi bod Cronfa Twf Busnes Powys yn grant dewisol ac yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Powys.

Gellir tynnu'r grant yn ôl pe bai'r busnes yn rhoi'r gorau i fasnachu, yn adleoli neu'n gwerthu'r eitemau a brynwyd fel rhan o'r grant o fewn 5 mlynedd i'w dyfarnu.

Rhaid i Gwmnïau Cyfyngedig ddefnyddio'r cyfrif banc busnes i brynu'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant. Anogir Unig Fasnachwyr a phartneriaethau bod yr holl nwyddau a brynir mewn perthynas â'r grant yn cael eu prynu gan ddefnyddio cyfrif banc y busnes.

Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, felly mae'n rhaid bod gan ymgeiswyr y modd i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Powys.

Os bydd y cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn syth i gyfrif banc busnes yr ymgeisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbynneb neu dystiolaeth o bryniant a thaliad h.y. datganiadau banc printiedig gwreiddiol neu ar-lein ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant.

Rhaid gofyn i'r tîm grant am unrhyw wyriadau i'r cais o ran cyflenwyr a gwariant cyn prynu. Gall methu â cheisio cymeradwyaeth olygu na fydd y grant yn cael ei dalu am yr eitemau hynny.

Bydd angen tystiolaeth ffotograffig o'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant i gefnogi'r hawliad. Mewn rhai achosion, bydd angen ymweliad safle.

Rhaid i'r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant trwy gwblhau'r Hysbysiad o Gymeradwyaeth a Thelerau ac Amodau o fewn 30 diwrnod o'i dderbyn. Rhaid cwblhau'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis o ddyddiad y llythyr cymeradwyo neu 31 Rhagfyr 2024 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Ni roddir estyniad ar gyfer cyflwyno'r hawliad

Rhaid cyflawni / cynnal y swydd(i) sydd wedi'u creu a/neu eu diogelu sy'n gysylltiedig â'r prosiectau o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant neu fis Mawrth 2025 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Bydd y busnes a'r swyddi a grëwyd a/neu a ddiogelir yn cael eu monitro a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfachu arian grant.

I bob pwrpas grant, bydd yr hawliad a thystiolaeth yn cael ei fonitro gyda rhybudd ymlaen llaw ymhen 1, 3 a 5 mlynedd o ddyddiad dyfarnu'r grant.

Os na fydd y prosiect yn mynd rhagddo o fewn y cyfnod a nodir yn y cynnig grant, bydd y cynnig grant yn dod i ben yn awtomatig. Rhaid gofyn am unrhyw amrywiad i'r Telerau ac Amodau a nodir yn y Llythyr Cymeradwyo a chytuno arno

Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant. 

Mae eitemau a brynwyd gyda chardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r trafodiad ar eu bil cerdyn credyd. ** Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio'r cardiau credyd busnes i brynu eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr(wyr).

Ni fydd grantiau'n cael eu cynnig na'u talu os yw'r busnes neu'r ymgeisydd mewn ôl-ddyledion gydag unrhyw daliad i unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan sy'n gweithredu'r cynllun.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu