Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcas/prydles,
Gwella'r eiddo / mân waith adeiladu
Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno,
Gosodion a ffitiadau newydd, dodrefn, ac offer swyddfa cyffredinol ac ati.
Ffioedd a chostau wrth gefn a ymrwymwyd neu a wariwyd cyn y cynnig a derbyn y grant.
Cerbydau Cyffredinol megis ceir a faniau
Costau cyfalaf gweithio fel stoc, rhent, trethi, gweinyddiaeth.
Aelodaeth ac ymlyniad i gyrff llywodraethu
Costau gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, gan gynnwys caniatâd cynllunio.
Astudiaethau dichonoldeb
Os yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, yna ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau sydd heb gofrestru ar gyfer TAW.
Ni ddylid mynd i unrhyw wariant cyn cymeradwyo'r grant gan na ellir dyfarnu'r grantiau yn ôl-weithredol.
Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.
Ni fydd eitemau a brynir drwy brydles, hurbwrcas, cytundebau credyd /prydlesi cyllid estynedig yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.
Ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys cynlluniau busnes / ysgrifennu BID ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau