Grant Twf Busnes
Adfachu Arian Grant
Bydd cyllid yn cael ei atal a/neu, i'r graddau y mae taliad wedi'i wneud, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu cyllid naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, gan gynnwys os:
- a) bu gordaliad cyllid;
- b) yn ystod ei fywyd economaidd, bod y prosiect yn mynd trwy newid sylweddol a ddiffinnir fel un sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw'r rhai a nodir yn y cais, neu, yn cael perchennog newydd heb hysbysu Cyngor Sir Powys.
Y bywyd economaidd yw'r cyfnod hyd at 5 mlynedd o ddyddiad taliad olaf y grant a bydd angen ad-dalu'r cyllid fel a ganlyn:
O fewn 1 flwyddyn Cyllid i'w ad-dalu'n llawn
O fewn 2 flynedd 80% o'r cyllid i'w ad-dalu
O fewn 3 blynedd 60% o'r cyllid i'w ad-dalu
O fewn 4 blynedd 40% o'r cyllid i'w ad-dalu
O fewn 5 mlynedd 20% o'r cyllid i'w ad-dalu
Ar ôl 5 mlynedd Dim cyllid i'w ad-dalu
Y gofynion uchod yw'r gofynion ad-dalu lleiaf
Os na chaiff y swyddi eu creu a/neu eu diogelu, yna mae gan y Cyngor Sir yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu'n llawn.
Rhaid ad-dalu'r grant yn llawn pan ofynnir am hynny os: -
- canfyddir bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw gamliwio mewn cysylltiad â'r cais.
- yw'r ymgeisydd wedi torri'r amod uchod.
- nad yw'r asedau a'r eiddo (os yn berthnasol) yn cael eu hadfer yn llawn o fewn 12 mis i unrhyw ddigwyddiad sy'n arwain at golled neu ddifrod i'r eiddo.