Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhoi gwybod am gam-drin plant

Os rydych yn cael eich niweidio neu gam-drin, neu os ydych chi'n pryderu am rywun arall, cofiwch roi gwybod i rywun.  Os byddwch yn rhoi gwybod am bryder ac yna mae'n ymddangos nad oes unrhyw beth wedi digwydd ni fyddwch mewn trwbl os oeddech chi'n meddwl bod yna berygl go iawn.

Os rydych yn gweld neu'n clywed rhywun yn cael eu niweidio neu eu cam-drin, neu os oes rhywun wedi dweud wrthych eu bod yn cael eu niweidio neu eu cam-drin:

Mewn argyfwng, peidiwch ag aros - ffoniwch 999.

  • Mynnwch help meddygol os ydynt wedi cael eu brifo
  • Ffoniwch yr heddlu os ydych yn tybio bod yna drosedd wedi'i chyflawni
  • Gwrandewch a chysuro'r dioddefwr
  • Cadwch unrhyw dystiolaeth (bydd yr heddlu yn rhoi gwybod i chi am hyn)
  • Peidiwch â rhoi pwysau ar yr unigolyn i roi gwybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd

Peidiwch ag aros tan eich bod chi'n siŵr os ydych chi'n poeni am blentyn.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu amheuon, cysylltwch â ni 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn trwy e-bostio csfrontdoor@powys.gov.uk neu fynd i'r ffurflen adrodd ar-lein. (Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i roi gwybod am ddigwyddiad ar unrhyw bryd, ond dim ond yn ystod oriau swyddfa y bydd y tîm yn agor y ffurflen).

Gallwch hefyd godi'r ffôn ar: 01597 827666  (Dydd Llun i Ddydd Iau  8.45am - 4.45pm a Dydd Gwener  8.45am - 4.15pm)

Tu allan i oriau gwaith, ffoniwch  0345 054 4847

Gall staff proffesiynol ddefnyddio ein ffurflen atgyfeirio aml-asiantaeth neu CYSUR Ffurflen Atgyfeirio Aml-Asiantaeth (FAA) i Blant

Mae staff proffesiynol yn gallu cael rhagor o wybodaeth yma: Gwybodaeth i staff proffesiynol

Os ydych wedi bod mewn cysylltiad ag aelod o staff o'n Tim Drws Ffrynt Gwasanaethau Plant hoffwn gael eich barn am y gwasanaeth ry'n ni'n ei ddarparu.

Gadewch Adborth Adborth Defnyddiwr Drws Ffrynt

Sign Language icon