Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Cychwyn Busnes

Cymhwysedd

Caiff Grant Dechrau Busnes Powys ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'i ddarparu gan Gyngor Sir Powys ac felly dim ond ar gael ar gyfer ceisiadau gan grwpiau neu unigolion sydd â chynigion busnes newydd hyfyw wedi eu lleoli ym Mhowys, fydd yn gweithredu o fewn, neu'n gwasanaethu un o'r sectorau cymwys. Mae'r grant ar gael ar gyfer busnesau sydd heb ddechrau yn unig (heb fasnachu eto).

Bydd y grant ar agor nes bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.

Mae cymorth wedi'i anelu'n bennaf at fusnesau newydd fydd yn gweithredu o fewn, neu'n gwasanaethu'r sectorau twf a sylfaen canlynol:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Blaengar
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol
  • Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu
  • Gwyddorau Bywyd
  • Bwyd a Diod
  • Twristiaeth
  • Mân-werthu
  • Gofal

Fodd bynnag, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos ar sail eu cyfraniad a'u gwerth posibl i'r economi leol, e.e. creu swyddi yng nghanol prif drefi a threfi llai'r sir, ardaloedd gwledig.

Nid yw'r sectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth: - cynhyrchiant amaethyddol sylfaenol, coedwigaeth, dyframaeth, pysgota a gwasanaethau statudol, e.e. iechyd sylfaenol ac addysg.

Rhaid prynu'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant a'i hawlio o fewn 4 mis i ddyddiad y llythyr cymeradwyo neu ddim hwyrach na 30ain Medi 2024, pa un bynnag sydd gynharaf. Ni roddir unrhyw estyniadau i geisiadau gael eu cyflwyno.

Rhaid creu'r busnes arfaethedig a'r swyddi cysylltiedig o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant neu 30ain Tachwedd 2024 pa un bynnag sydd gynharaf. Byddwn yn monitro'r busnes a'r swyddi a grëir a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at ad-hawlio'r taliad grant.

Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i fonitro a chadw tystiolaeth ar flynyddoedd 1, 3 a 5 o'r dyddiad y dyfernir y grant.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu