Casglu gwastraff ailgylchu o'r ardd
1 Mawrth 2024
Os nad ydych wedi adnewyddu eich tanysgrifiad, neu gofrestru am y tro cyntaf, gallwch wneud hynny unrhyw bryd trwy fynd i Casglu gwastraff o'r ardd neu ffonio 01597 827465.
Mae'r gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu o'r ardd yn cynnig ffordd rwydd, glan a syml o waredu eich gwastraff o'r ardd, gan wybod y bydd yn cael ei gasglu, ei ailgylchu, a'i droi'n gompost.
Mae'r tanysgrifiad o £50 yn cynnwys llogi bin 240 litr ar olwynion a chasglu eich gwastraff bob pythefnos rhwng 27 Chwefror a 1 Rhagfyr. Mae bin llai ar gael am bris rhatach i gartrefi â gerddi bychain, neu sachau gwyrdd y gellir eu compostio i'r rheiny y mae eu sbwriel gweddilliol yn cael ei gasglu mewn bagiau porffor.
Os ydych chi'n aildanysgrifio am flwyddyn arall, byddwch yn derbyn sticer i'w roi ar eich bin gwyrdd ar olwynion i ddangos i'r criw eich bod wedi talu am eich casgliadau yn ystod 2024. Bydd y cyngor yn dosbarthu bin gwyrdd ar olwynion i bob tanysgrifiwr newydd o fewn 10 diwrnod gwaith, felly gwnewch yn siwr eich bod wedi cofrestru mewn da bryd er mwyn manteisio cymaint â phosibl ar y casgliadau.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y Gwanwyn yn cyrraedd ac unwaith y bydd y diwrnodau'n dechrau ymestyn a'r tywydd yn troi ychydig yn fwynach, bydd nifer ohonom yn awyddus i fynd allan i'r ardd unwaith eto.
"Mae'r gwasanaeth hawdd, glân a syml yn ffordd wych o gael gwared ar eich holl wastraff o'r ardd gan wybod y bydd yn cael ei ailgylchu'n gompost."
Gallwch danysgrifio nawr trwy fynd i Casglu gwastraff o'r ardd neu ffonio 01597 827465.
Ar ôl cofrestru ar gyfer tymor 2024, cofiwch wirio eich diwrnod casglu - efallai y bydd wedi newid ers y llynedd: Diwrnod casglu biniau
Bydd trigolion sydd ddim am fanteisio ar y gwasanaeth yn gallu parhau i gompostio eu gwastraff adref neu ei gludo i un o'r pump canolfan ailgylchu ym Mhowys.