Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)

Sut rhoddir y system ar waith?

Mae'n ddyletswydd ar gynghorau i adolygu'r amodau tai yn eu hardal.

Naill ai o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, neu am ryw reswm arall megis cwyn gan denant neu gymydog, gallant archwilio eiddo os oes ganddynt reswm i feddwl bod perygl iechyd neu ddiogelwch yno. Rhaid i'r dasg o sgorio'r peryglon a ganfuwyd yn ystod arolygiad gael ei chynnal yn unol â'r dull a nodir yng nghanllawiau'r HHSRS.

Yn ogystal â darparu'r sail gyfreithiol i HHSRS, mae Deddf 2004 yn cynnwys pecyn o fesurau gorfodi i Gynghorau eu defnyddio. Gellir defnyddio'r pwerau hyn i ddelio â thai gwael yn y sector preifat, neu unrhyw dai sy'n eiddo i landlord sector cyhoeddus fel y Weinyddiaeth Amddiffyn, y GIG, Awdurdod Tân ac Achub neu'r Heddlu, oni bai bod ganddo esemptiad y Goron. Mae'n ddyletswydd ar gynghorau i drin peryglon difrifol 'Categori 1' o dan HHSRS, ac mae ganddynt bwerau dewisol i drin peryglon 'Categori 2' llai difrifol.