Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gwasanaeth Cyngor Ariannol wedi helpu trigolion Powys i hawlio £3.2m ychwanegol mewn budd-daliadau

A person looking happy while talking on the phone

15 Mai 2024

A person looking happy while talking on the phone
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2023/24) cafodd trigolion Powys eu helpu i hawlio £3.28 miliwn ychwanegol mewn budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt, diolch i'r cyngor sir.

Helpodd y Gwasanaeth Cyngor Ariannol 1,406 o bobl dros y cyfnod hwnnw, a byddai'n hoffi helpu hyd yn oed rhagor o drigolion sy'n cael trafferthion ariannol dros y 12 mis nesaf.

Gall Gwasanaeth Cyngor Ariannol Cyngor Sir Powys (CSP) eich helpu i:

  • Fanteisio i'r eithaf ar eich incwm a rhoi cyngor ar eich hawliau.
  • Gwneud cais am fudd-daliadau a grantiau lles.
  • Rheoli eich costau tanwydd a chael hyd i well ffyrdd i wresogi eich cartref.
  • Rheoli eich sefyllfa o ran dyledion, gan gynnwys yr opsiwn o 'Le i Anadlu'.
  • Rheoli eich arian trwy gyllidebu'n well.

Cyngor Ariannol Cyngor Sir Powys

Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys, gyda chefnogaeth Macmillan, cyngor ar gyfer trigolion Powys sydd wedi derbyn diagnosis o ganser ar gyfer eu teuluoedd a gofalwyr.

Hefyd mae'r Gwasanaeth Cyngor Ariannol wedi llwyddo i gyflogi staff ychwanegol i helpu gydag ymholiadau diolch i grant trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Fodd bynnag, er gwaethaf y llwyddiannau hyn, amcangyfrifir nad yw:

  • cymaint â 5,000 o aelwydydd Powys yn hawlio cymorth o ran Lleihad yn Nhreth y Cyngor y mae ganddynt hawl iddo efallai.
  • 2,000 o bensiynwyr Powys yn hawlio Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo efallai.
  • 1,750 o drigolion Powys efallai'n hawlio Credyd Cynhwysol y mae ganddynt hawl iddo.

Ceir rhagor o wybodaeth ar sut i wirio a ydych chi'n gymwys ar gyfer, ac i hawlio'r budd-daliadau hyn yma:

Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch budd-daliadau, cyngor ariannol neu gefnogaeth Macmillan, gallwch hefyd siarad gyda Gwasanaeth Cyngor Ariannol CSP.

Mae'n cynnig cymorth cyfrinachol am ddim, naill ai dros y ffôn neu apwyntiad personol, yn eich cartref, swyddfa leol y cyngor, neu yn eich cymuned.

Ceir mynediad ato trwy wefan CSP, a chwilio am 'gyngor ariannol' a chwblhau'r ffurflen ar-lein: 'Cais am Gyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan'. Neu gallwch ffonio 01597 826618, neu ebostio wrteam@powys.gov.uk

"Fedra i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig mae'r gwasanaeth hwn, a hoffwn annog teuluoedd sydd ar incwm isel i'w ddefnyddio," meddai'r Cyng David Thomas, Aelod Cabinet CSP ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol. "Ar gyfartaledd, derbyniodd y sawl a geisiodd cymorth yn ystod y 12 mis diwethaf £2,300 yn fwy o arian nag o'r blaen. Mae hyn yn hwb sylweddol i'w hincwm blynyddol."

Ychwanegodd y Cyng Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Cydnabyddwn fod llawer o'n trigolion wedi cael eu heffeithio'n negyddol oherwydd yr argyfwng costau byw, ac os ydych chi'n cael trafferthion ariannol, neu os ydych chi'n adnabod rhywun mewn sefyllfa felly, croeso ichi ddefnyddio'r gwasanaeth rhagorol hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu