Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Os oes gennych Fy Nghyfrif Powys, cymerwch ran yn ein harolwg os gwelwch yn dda

Wythnosau olaf casglu gwastraff o'r ardd yn 2024

Garden waste

14 Tachwedd 2024

Garden waste
Dyma atgoffa trigolion a'r rhai sydd wedi cofrestru i gasglu gwastraff o'r ardd mai dim ond rhai wythnosau sydd ar ôl eleni i gasglu eich gwastraff.

I weld pryd mae'r dyddiadau casglu nesaf, edrychwch ar sticer aelodaeth 2024 sydd ar eich bin gwyrdd, neu ewch i https://cy.powys.gov.uk/Diwrnodcasglubiniau

Bydd modd tanysgrifio ar gyfer gwasanaeth 2025 eto ym mis Ionawr, gyda'r gwasanaeth yn ailgychwyn ar ddechrau mis Mawrth 2025.

Dywed y Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: " Mae llawer ohonom yn tacluso'n gerddi ar ôl yr haf ac yn paratoi pethau ar gyfer y gwanwyn. Felly, rydym yn awyddus i atgoffa ein trigolion i wneud y gorau o'r ychydig gasgliadau gwastraff o'r ardd olaf sydd ar ôl yn 2024.

"Gan gofio hynny, hoffem atgoffa pawb i fanteisio i'r eithaf ar y casgliadau o wastraff garddio sy'n weddill nawr ar gyfer 2024.

"Hyd yma eleni, gyda help aelwydydd sydd wedi cofrestru, rydym wedi casglu miloedd o dunelli o wastraff o'r ardd a'i ailgychu'n gompost.

"Gyda'r gaeaf ar ein gwarthaf a'r gwastraff o'r ardd yn lleihau, mae'r gwasanaeth yn cymryd egwyl dros y gaeaf, ond gallwch barhau i ailgylchu eich gwastraff trwy ei droi'n gompost eich hun neu fynd ag ef i un o'n canolfannau gwastraff ac ailgylchu ym Mhowys."

Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff o'r ardd, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/gwastraffgardd

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu