Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Ydych chi'n cael trafferth talu eich rhent neu symud i gartref rhent newydd?

A person looking worried by their rent bill

4 Mawrth 2025

A person looking worried by their rent bill
Gallai preswylwyr Powys sy'n cael trafferth talu eu rhent neu symud i gartref rhent newydd fod yn gymwys i hawlio cymorth drwy'r cyngor sir.

Gellir defnyddio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i gynnwys:

  • Diffygion rhent: Pan nad yw eich Budd-dal Tai na Chredyd Uniongyrchol yn talu am eich rhent yn llawn. 
  • Blaendaliadau rhent: Os oes angen i chi symud ac na allwch fforddio'r blaendal.
  • Rhent ymlaen llaw: Os oes angen i chi dalu rhent ymlaen llaw am gartref newydd.

Cwblhewch y ffurflen hawlio Taliad Tai yn ôl Disgresiwn ar-lein: Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

I fod yn gymwys rhaid eich bod chi'n derbyn Budd-dal Tai neu elfen dai o Gredyd Cynhwysol.

Gallwch dderbyn cymorth dros y ffôn drwy ffonio: 01597 827462.

"Os ydych chi'n cael trafferth talu eich rhent neu am symud i gartref newydd sy'n fwy addas, ond nad oes digon o arian gennych, cysylltwch," dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol. "Cafodd y gronfa hon ei sefydlu i helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddiwygiadau lles fel y cap ar fudd-daliadau, cael gwared ar gymhorthdal ystafell wely sbâr a newidiadau i gyfraddau Lwfans Tai Lleol, gan gynnwys y rhewi pedair blynedd, ond gallai rhai eraill fod yn gymwys hefyd!

"Cyflwynwch eich cais a bydd y cyngor yn ystyried eich amgylchiadau unigol i benderfynu a ydych chi'n cymhwyso, faint y byddwch yn ei dderbyn, ac am ba mor hir."

Ni ellir defnyddio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i dalu am dreth y cyngor, ond os ydych chi'n cael trafferth talu, mae'n werth gwirio a ydych chi'n gymwys am ostyngiad i dreth y cyngor: Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor

Hefyd, mae gwasanaeth cyngor ariannol gan Gyngor Sir Powys a allai helpu gydag anawsterau ariannol ac mae'n cynnig cyfarwyddyd ar filiau, budd-daliadau a dyled: Cais am Gyngor Ariannol neu Gymorth Macmillan

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu