Treth y Cyngor: Pan fydd rhywun yn symud allan neu mewn / nôl i'ch cartref
Trefniadau i fyfyrwyr
Efallai na fydd yn rhaid i oedolion sy'n fyfyrwyr, yn brentisiaid neu'n hyfforddeion dalu Treth y Cyngor. Os mai dim ond un oedolyn cymwys sydd ar ôl yn y tŷ, efallai y bydd yn cael disgownt o 25%.
Mae angen i fyfyrwyr fod ar gwrs llawnamser am o leiaf blwyddyn ac astudio am o leiaf 21 awr yr wythnos. Rhaid i brentisiaid fod mewn rhaglen hyfforddi sy'n arwain at gymhwyster ac yn ennill £195 neu lai yr wythnos. Gall hyfforddeion ifanc dan 25 oed mewn rhai rhaglenni hyfforddi gael eu heithrio hefyd.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we 'Cymorth i fyfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion'.