Maes Blaenoriaeth 1: Cefnogi Busnesau Lleol
Cyflwyniad
Mae cefnogi busnesau lleol yn ganolog i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ym Mhowys. Nod y fenter hon yw cryfhau'r economi leol drwy gynorthwyo busnesau i dyfu, arloesi a llwyddo. Mae'r gronfa'n cynnig cefnogaeth hanfodol i ficrofusnesau, busnesau bach a busnesau canolig eu maint (BBaCh) yn y sir, gan feithrin entrepreneuriaeth a chreu swyddi.
Mae'r ffocws ar fusnesau lleol yn anelu at sbarduno twf economaidd drwy helpu busnesau ym Mhowys i ffynnu, arloesi ac addasu. Gyda dros 95% o fusnesau ym Mhowys yn ficrofusnesau, mae'r flaenoriaeth hon yn ceisio darparu cymorth sydd wedi'i deilwra i wella cynhyrchiant, annog arloesedd, a chreu cyfleoedd am swyddi o ansawdd uchel.
Mae'r prif fentrau'n cynnwys:
- Cyllid a Chymorth: Helpu busnesau i ehangu, mabwysiadu technolegau newydd, ac arallgyfeirio i farchnadoedd newydd.
- Uwchsgilio ac Arloesi: Darparu mynediad at hyfforddiant ac adnoddau i wella sgiliau'r gweithlu a sbarduno arloesedd.
- Gwydnwch ac Adferiad: Cefnogi busnesau i adfer o heriau'r pandemig a pharatoi ar gyfer twf yn y dyfodol.
Drwy feithrin ysbryd entrepreneuriaeth ym Mhowys a chefnogi ei fusnesau, mae'r flaenoriaeth hon yn cyfrannu tuag at economi leol gryfach a mwy gwydn.
Cyllidebau
Dyraniad 2022/23
Blaenoriaeth Buddsoddi - Cefnogi Busnesau Lleol
Dyraniad Cyfalaf £0
Dyraniad Refeniw £1,058,056
Dyraniad 2023/24
Blaenoriaeth Buddsoddi - Cefnogi Busnesau Lleol
Dyraniad Cyfalaf £317,417
Dyraniad Refeniw £1,798,696
Dyraniad 2024/25
Blaenoriaeth Buddsoddi - Cefnogi Busnesau Lleol
Dyraniad Cyfalaf £1,062,641
Dyraniad Refeniw £4,481,574
Dyraniad y Rhaglen
Blaenoriaeth Buddsoddi - Cefnogi Busnesau Lleol
£8,718,385
Noder fod y cyllidebau ar gyfer pob maes blaenoriaeth ar hyn o bryd yn cael eu dangos fel symiau a ddyrannwyd. Unwaith y bydd yr holl ddata wedi'i gasglu, cânt eu diweddaru i adlewyrchu'r gwariant gwirioneddol.
Amcanion
- Twf Busnes: Cefnogaeth i fusnesau newydd a phresennol ym Mhowys i'w helpu i dyfu a ffynnu, gan gynnwys cymorth ariannol, trosglwyddo gwybodaeth, a datblygu seilwaith. Mae hyn yn cynnwys grantiau a benthyciadau ar gyfer ehangu busnes, yn ogystal â mentora a gwasanaethau cynghori.
- Astudiaethau Dichonoldeb: Cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb i archwilio cyfleoedd busnes newydd ac asesu hyfywedd prosiectau posibl ym Mhowys. Mae hyn yn helpu i nodi mentrau addawol ac yn sicrhau bod buddsoddiadau'n cael eu gwneud yn strategol ac yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.
- Cefnogaeth i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau): Mentrau i helpu busnesau bach a chanolig ym Mhowys i symud o dwf cynnar i fusnesau canolig cynaliadwy, gan ddarparu cyfleoedd am gyflogaeth sydd â chyflogau uwch. Mae hyn yn cynnwys cymorth i ehangu gweithrediadau, cyrraedd marchnadoedd newydd a gwella cynhyrchiant.
- Diogelu rhag Peryglon Naturiol: Grantiau a chymorth i warchod busnesau ym Mhowys rhag peryglon naturiol, megis llifogydd ac erydiad arfordirol, gan sicrhau eu gwydnwch a'u cynaliadwyedd. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd, cynllunio o ran argyfyngau a mesurau parhad busnes.
- Dyfeisgarwch ac Ymchwil a Datblygu (R&D): Annog buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu i sbarduno dyfeisgarwch a chystadleurwydd yn yr economi leol. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer prosiectau cydweithredol rhwng busnesau a sefydliadau ymchwil, yn ogystal â chyllid ar gyfer technolegau a phrosesau newydd.
Prif Gyflawniadau
Disgwylir i'r flaenoriaeth Cefnogi Busnesau Lleol gyflawni:
- 51 o brosiectau wedi'u cymeradwyo a'u cyflwyno led led Powys
- 350 o swyddi newydd wedi'u creu drwy grantiau a chynlluniau datblygu busnes.
- 230 o fusnesau wedi mabwysiadu technolegau newydd, gan wella cynhyrchiant a chystadleurwydd.
- Prosiectau ynni cynaliadwy wedi'u lansio, gan leihau ôl troed carbon ac annog mentrau gwyrdd lleol.
Noder fod y cyflawniadau ar gyfer pob maes blaenoriaeth ar hyn o bryd yn cael eu dangos fel amcangyfrifon. Unwaith y bydd yr holl ddata wedi'i gasglu, cânt eu diweddaru i adlewyrchu'r cyflawniadau gwirioneddol.
Astudiaethau Achos
Bydd Astudiaethau Achos y Prosiect yn cael eu lanlwytho ar gyfer y maes blaenoriaeth hwn cyn bo hir.
Fideos Perthynol
EcoDyfi - Tyfu'r Economi Bwyd Lleol
Cryfhaodd prosiect EcoDyfi economi bwyd lleol Biosffer Dyfi trwy gefnogi tyfwyr newydd, hyrwyddo amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned, ac ehangu cyflenwad cynnyrch lleol. Trwy fentora, compostio ac allgymorth, gwnaeth feithrin system fwyd deg, gynaliadwy a gwydn
Sefydliad Gŵyl y Gelli - Gŵyl y Gelli
Defnyddiodd Sefydliad Gŵyl y Gelli gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin DU i gefnogi Penwythnos y Gaeaf, gan roi hwb i'r economi leol a thwristiaeth. Trwy gyflwyno digwyddiadau o ansawdd uchel ac astudiaeth ddichonoldeb, nod y prosiect oedd sicrhau dyfodol tymor hir yr ŵyl a hyrwyddo'r rhanbarth trwy gydol y flwyddyn.
Rhestr Prosiectau a Gymeradwywyd
Cefnogi Busnesau Lleol - Prosiectau a Gymeradwywyd (PDF, 643 KB)