Maes Blaenoriaeth 3: Pobl a Sgiliau
Cyflwyniad
Mae Pobl a Sgiliau yn rhoi pwyslais ar addysg, hyfforddiant, a datblygiad sgiliau. Mae dyfodol Powys yn dibynnu ar ei phobl, ac mae'r maes blaenoriaeth hwn yn cefnogi prosiectau sy'n gwella cyfleoedd addysgol, yn darparu sgiliau i unigolion ar gyfer diwydiannau modern, ac yn creu llwybrau datblygu gyrfa led led y sir.
Mae blaenoriaeth Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi ymrwymo i alluogi trigolion Powys i gael y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y gweithlu modern. Trwy fynd i'r afael â phryderon ynghylch prinder sgiliau a gwella mynediad at addysg a hyfforddiant, mae'r flaenoriaeth hon yn helpu unigolion i adeiladu dyfodol gwell.
Mae prif fentrau'n cynnwys:
- Uwchraddio'r Gweithlu: Darparu hyfforddiant mewn meysydd hanfodol megis sgiliau digidol a sgiliau gwyrdd.
- Cefnogi Cyflogadwyedd: Helpu ceiswyr gwaith i ennill cymwysterau a chael mynediad at gyfleoedd gyrfa.
- Dysgu Gydol Oes: Hyrwyddo addysg i bobl o bob oed i sicrhau bod pawb yn gallu cyrraedd eu llawn botensial.
Mae'r flaenoriaeth hon yn anelu at greu gweithlu medrus a hyblyg sy'n cefnogi twf economaidd ac yn gwella cyfleoedd bywyd led led Powys.
Cyllidebau
Dyraniad 2022/23
Blaenoriaeth Buddsoddi - Pobl A Sgiliau
Dyraniad Cyfalaf £0
Dyraniad Refeniw £529,028
Dyraniad 2023/24
Blaenoriaeth Buddsoddi - Pobl A Sgiliau
Dyraniad Cyfalaf £0
Dyraniad Refeniw £2,199,506
Dyraniad 2024/25
Blaenoriaeth Buddsoddi - Pobl A Sgiliau
Dyraniad Cyfalaf £0
Dyraniad Refeniw £2,772,108
Dyraniad y Rhaglen
Blaenoriaeth Buddsoddi - Pobl A Sgiliau
£5,500,642
Noder fod y cyllidebau ar gyfer pob maes blaenoriaeth ar hyn o bryd yn cael eu dangos fel symiau a ddyrannwyd. Unwaith y bydd yr holl ddata wedi'i gasglu, cânt eu diweddaru i adlewyrchu'r gwariant gwirioneddol.
Amcanion
- Datblygu Sgiliau: Cyrsiau a rhaglenni hyfforddi i helpu unigolion ym Mhowys i ennill sgiliau hanfodol, gan gynnwys sgiliau bywyd a sylfaenol, sgiliau digidol, a chymwysterau galwedigaethol. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau addysg i oedolion, prentisiaethau a hyfforddiant mewn swydd.
- Cynhwysiant Digidol: Mentrau i gynyddu cynhwysiant digidol ym Mhowys, gan sicrhau bod gan bawb y sgiliau a'r mynediad sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan yn yr economi ddigidol. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant llythrennedd digidol a mynediad at ddyfeisiau a gwasanaethau rhyngrwyd fforddiadwy.
- Sgiliau Gwyrdd: Hyfforddiant a chefnogaeth i ddatblygu sgiliau gwyrdd, gan hyrwyddo dulliau cynaliadwy a chyfleoedd cyflogaeth yn yr economi werdd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau ar ynni adnewyddadwy, amaethyddiaeth gynaliadwy a chadwraeth amgylcheddol.
- Cefnogi Ieuenctid: Rhaglenni i helpu pobl ifanc ym Mhowys i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith, gan eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn. Mae hyn yn cynnwys cynghori ar yrfaoedd, interniaethau a chefnogaeth i unigolion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth nac hyfforddiant (NEETs).
- Ailhyfforddi ac Uwchsgilio: Cefnogaeth i unigolion sy'n gweithio mewn sectorau allyriadau carbon uchel i ailhyfforddi ac uwchsgilio, gan sicrhau eu bod yn gallu pontio i mewn i gyfleoedd cyflogaeth newydd mewn economi carbon isel. Mae hyn yn cynnwys ariannu rhaglenni ailhyfforddi a chymorth i bontio i yrfaoedd newydd.
Prif Gyflawniadau
- 23 o brosiectau wedi'u cymeradwyo a'u cyflwyno led led Powys
- 1000 o unigolion wedi'u hyfforddi mewn sgiliau digidol, gan gefnogi sector technoleg sy'n tyfu yn y rhanbarth
- 1500 o unigolion wedi derbyn cefnogaeth i ennill cymhwyster neu gwblhau cwrs
- 2500 o unigolion wedi'u cefnogi i gael mynediad at sgiliau sylfaenol a sgiliau bywyd
- Partneriaethau gydag ysgolion, colegau a busnesau lleol i gynnig prentisiaethau a rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol
Noder fod y cyflawniadau ar gyfer pob maes blaenoriaeth ar hyn o bryd yn cael eu dangos fel amcangyfrifon. Unwaith y bydd yr holl ddata wedi'i gasglu, cânt eu diweddaru i adlewyrchu'r cyflawniadau gwirioneddol.
Astudiaethau Achos
Bydd Astudiaethau Achos y Prosiect yn cael eu lanlwytho ar gyfer y maes blaenoriaeth hwn cyn bo hir.
Fideos Perthynol
Cyngor Sir Powys - Prosiect Cymorth Ieuenctid Ymyrraeth Gynnar
Treialodd Prosiect Cymorth Ieuenctid Ymyrraeth Gynnar Cyngor Sir Powys fenter gymunedol i gefnogi pobl ifanc y tu hwnt i'r ysgol. Cryfhaodd wasanaethau ieuenctid, meithrin perthnasoedd, ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr i greu cefnogaeth barhaol mewn cymunedau.
Cyngor Powys - Hanfodion digidol-Copilot
Rhoddodd y prosiect hwn hwb i sgiliau digidol ledled Cyngor Sir Powys drwy ddarparu hyfforddiant wedi'i dargedu i staff, gan wella effeithlonrwydd ledled yr awdurdod. Roedd cydweithio â meysydd gwasanaeth yn helpu i gefnogi dysgu digidol ac uwchsgilio, gyrru cynnydd ac arloesedd.
Cyngor Sir Powys - Llwybrau i'r Gwaith
Aeth prosiect Llwybrau at Waith Cyngor Sir Powys i'r afael â bylchau sgiliau drwy nodi llwybrau gyrfa, rhagweld prinder a pheilota atebion. Cyflwynodd brofiad gwaith a mentrau uwchsgilio i gefnogi recriwtio, hyfforddi a datblygu'r gweithlu ar draws y cyngor.
Rhestr Prosiectau a Gymeradwywyd
Pobl a Sgiliau - Prosiectau a Gymeradwywyd (PDF, 533 KB)