Lluosi: Hybu Rhifedd Oedolion ym Mhowys
Cyflwyniad
Beth yw Lluosi?
Rhaglen i bob rhan o'r DU yw Lluosi sy'n anelu at wella sgiliau rhifedd ymhlith oedolion. Fe'i cyflwynir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan roi'r gallu i bobl ym Mhowys ennill sgiliau mathemateg ymarferol sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd bob dydd, gwaith a datblygiad personol.
Pam mae Rhifedd yn Bwysig?
Mae rhifedd yn hanfodol ar gyfer rheoli cyllid, gwella cyfleoedd gwaith, a meithrin hyder. Mae llawer o oedolion yn brin o sgiliau rhifedd sylfaenol, sy'n gallu eu dal yn ôl. Mae Lluosi yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn drwy gynnig addysg am ddim a hyblyg i unrhyw un 19 mlwydd oed neu hŷn.
Beth mae Lluosi yn ei Gynnig
- Cyrsiau Am Ddim: Dysgu ar eich cyflymder eich hunan gyda dewisiadau megis tiwtora personol, gwersi ar-lein a dosbarthiadau grŵp.
- Sgiliau Ymarferol: Cyllidebu, rheoli cyllid, a mathemateg ar gyfer y gweithle.
- Dysgu sydd wedi'i Deilwra: Rhaglenni ar gyfer rhieni, ceiswyr gwaith, gweithwyr a'r di-waith.
- Tiwtora Personol: Cefnogaeth un-i-un i helpu oedolion ym Mhowys i wella eu sgiliau rhifedd, sydd wedi'i deilwra i anghenion unigol. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau dysgu personol a gwerthusiadau cynnydd rheolaidd.
- Hyfforddiant Digidol: Cyrsiau ar-lein ac adnoddau i ddarparu hyfforddiant rhifedd hyblyg a hygyrch i drigolion Powys. Mae hyn yn cynnwys modiwlau rhyngweithiol, tiwtorialau fideo, a dosbarthiadau rhithwir.
- Cyrsiau Hyblyg: Cyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ffitio o amgylch bywyd bob dydd, gan ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan a gwella eu sgiliau. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau gyda'r nos a'r penwythnos, yn ogystal ag opsiynau dysgu ar eich cyflymder eich hunan.
- Llythrennedd Ariannol: Cyrsiau i helpu unigolion ym Mhowys i wella eu sgiliau rhifedd ar gyfer rheoli arian, cyllidebu a chynllunio ariannol. Mae hyn yn cynnwys gweithdai ymarferol ar gyllid personol a rheoli arian.
- Partneriaethau Cymunedol: Cydweithio â sefydliadau cymunedol ym Mhowys i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni rhifedd sy'n diwallu anghenion lleol. Mae hyn yn cynnwys partneriaethau gydag ysgolion lleol, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.
Cyllidebau
Dyraniad 2022/23
Blaenoriaeth Buddsoddi - Lluosi
Dyraniad Cyfalaf £0
Dyraniad Refeniw £716,393
Dyraniad 2023/24
Blaenoriaeth Buddsoddi - Lluosi
Dyraniad Cyfalaf £0
Dyraniad Refeniw £1,228,156
Dyraniad 2024/25
Blaenoriaeth Buddsoddi - Lluosi
Dyraniad Cyfalaf £0
Dyraniad Refeniw £1,653,213
Dyraniad y Rhaglen
Blaenoriaeth Buddsoddi - Lluosi
£3,597,762
Noder fod y cyllidebau ar gyfer pob maes blaenoriaeth ar hyn o bryd yn cael eu dangos fel symiau a ddyrannwyd. Unwaith y bydd yr holl ddata wedi'i gasglu, cânt eu diweddaru i adlewyrchu'r gwariant gwirioneddol.
Prif Gyflawniadau
Mae Lluosi eisoes yn gwneud gwahaniaeth:
- 17 o brosiectau wedi'u cymeradwyo a'u cyflwyno led led Powys.
- 2000 o oedolion wedi gwella eu sgiliau mathemateg.
- Partneriaethau gyda busnesau lleol yn helpu gweithwyr i uwchsgilio.
- Cyrsiau arbenigol yn cefnogi rhieni a cheiswyr gwaith.
Noder fod y cyflawniadau ar gyfer pob maes blaenoriaeth ar hyn o bryd yn cael eu dangos fel amcangyfrifon. Unwaith y bydd yr holl ddata wedi'i gasglu, cânt eu diweddaru i adlewyrchu'r cyflawniadau gwirioneddol.
Fideos Perthynol
Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru - Ehangu sgiliau rhifedd ar gyfer Oedolion cyflogedig
Cyflwynodd Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru uwchsgilio rhifedd ar gyfer oedolion cyflogedig, gan gynnig cyrsiau byr ac achrededig, grantiau hyfforddi pwrpasol, a sesiynau rhyngweithiol i helpu cynorthwywyr addysgu i fagu hyder ac effaith ystafell ddosbarth.
Rhestr Prosiectau a Gymeradwywyd