Toglo gwelededd dewislen symudol

Maes Blaenoriaeth 2: Cymunedau a Lle

Cyflwyniad  

Mae Cymunedau a Lle wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd trigolion drwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, iechyd a lles, a chydlyniant cymunedol. Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi galluogi prosiectau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus, ac yn creu cymunedau bywiog a chynhwysol led led Powys. 

Nod blaenoriaeth Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella ansawdd bywyd trigolion Powys drwy wella seilwaith lleol, meithrin balchder cymunedol, a hyrwyddo lles diwylliannol ac amgylcheddol. 

Mae'r prif fentrau'n cynnwys: 

  • Adfywio Canol Trefi: Cefnogi prosiectau adfywio i greu mannau bywiog a hygyrch. 
  • Gwella Asedau Lleol: Gwella parciau, lleoliadau diwylliannol a chyfleusterau cymunedol i hybu ymgysylltiad a lles. 
  • Mynd i'r Afael â Heriau Gwledig: Targedu materion fel unigedd, tlodi tanwydd a mynediad at wasanaethau mewn ardaloedd gwledig ym Mhowys. 

Mae'r flaenoriaeth hon yn ceisio creu cymunedau cysylltiedig, gwydn a ffyniannus lle mae trigolion yn teimlo'n falch o fyw, gweithio a mwynhau bywyd. 

Cyllidebau  

Dyraniad 2022/23

Blaenoriaeth Buddsoddi -  Cymunedau A Lle  

Dyraniad Cyfalaf  £318,519 

Dyraniad Refeniw  £739,537  

 

Dyraniad 2023/24

Blaenoriaeth Buddsoddi -  Cymunedau A Lle  

Dyraniad Cyfalaf  £1,161,658  

Dyraniad Refeniw  £954,455  

 

Dyraniad 2024/25

Blaenoriaeth Buddsoddi -  Cymunedau A Lle  

Dyraniad Cyfalaf  £3,187,924    

Dyraniad Refeniw  £2,356,292  

 

Dyraniad y Rhaglen  

Blaenoriaeth Buddsoddi -  Cymunedau A Lle  

£8,718,385 

  

Noder fod y cyllidebau ar gyfer pob maes blaenoriaeth ar hyn o bryd yn cael eu dangos fel symiau a ddyrannwyd. Unwaith y bydd yr holl ddata wedi'i gasglu, cânt eu diweddaru i adlewyrchu'r gwariant gwirioneddol. 

Amcanion  

  • Treftadaeth Ddiwylliannol: Prosiectau sy'n diogelu ac yn hyrwyddo treftadaeth gyfoethog Powys, gan gynnwys cefnogaeth i'r celfyddydau, diwylliant, treftadaeth, a gweithgareddau creadigol lleol. Er enghraifft, mentrau i adfer tirnodau hanesyddol a chefnogi gwyliau lleol sy'n dathlu traddodiadau unigryw Powys. 
  • Amddifadedd Gwledig: Mentrau sy'n mynd i'r afael â heriau unigryw cymunedau gwledig ym Mhowys, megis gwella mynediad at wasanaethau a lleihau unigedd. Mae hyn yn cynnwys prosiectau i wella cyfleusterau lleol, cefnogi canolfannau cymunedol, a gwella mynediad at ofal iechyd ac addysg. 
  • Cysylltedd Digidol: Ymdrechion i wella seilwaith digidol a chynyddu cynhwysiant digidol, gan sicrhau bod pob preswylydd ym Mhowys yn gallu cael mynediad at wasanaethau rhyngrwyd a digidol o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys ehangu cwmpas band eang mewn ardaloedd anghysbell a darparu hyfforddiant sgiliau digidol. 
  • Mannau Gwyrdd: Creu a gwella mannau gwyrdd lleol er mwyn hybu lles cymunedol a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae prosiectau'n cynnwys datblygu parciau, gerddi cymunedol a gwarchodfeydd natur sy'n darparu cyfleoedd hamdden ac yn cefnogi bioamrywiaeth. 
  • Teithio Llesol: Datblygu llwybrau teithio llesol, megis llwybrau beicio a llwybrau cerdded, i annog ffordd o fyw iachach a lleihau allyriadau carbon. Mae hyn yn cynnwys creu llwybrau diogel a hygyrch sy'n cysylltu cymunedau ac yn hyrwyddo cerdded a seiclo. 

Prif Gyflawniadau  

  • 37 o brosiectau wedi'u cymeradwyo a'u cyflwyno led led Powys.  
  • 4 cynllun gwyrdd neu effeithlonrwydd ynni wedi'u hariannu.  
  • 300 o gyfleusterau cymunedol a mannau cyhoeddus wedi'u gwella neu eu datblygu, gan annog rhyngweithio cymdeithasol a chymorth cymunedol.  

Noder fod y cyflawniadau ar gyfer pob maes blaenoriaeth ar hyn o bryd yn cael eu dangos fel amcangyfrifon. Unwaith y bydd yr holl ddata wedi'i gasglu, cânt eu diweddaru i adlewyrchu'r cyflawniadau gwirioneddol. 

Astudiaethau Achos  

Bydd Astudiaethau Achos y Prosiect yn cael eu lanlwytho ar gyfer y maes blaenoriaeth hwn cyn bo hir.

Fideos Perthynol  

Cadwch Gymru'n Daclus - Caru Powys 

Roedd Caru Powys yn bartneriaeth rhwng Cadwch Gymru'n Daclus a Chyngor Sir Powys, drwy fynd i'r afael â sbwriel, gwarchod bywyd gwyllt, a gwneud Powys yn lanach ac yn wyrddach. Trwy lanhau ac ymgyrchoedd newid ymddygiad, a gweithredu cymunedol, roedd yn grymuso pobl i ymfalchïo yn eu hamgylchedd. 

Cyngor Sir Powys - Cynllun Gwella Datgarboneiddio Neuaddau Cymunedol 

Cymerodd Powys gamau tuag at ddyfodol mwy gwyrdd drwy wella effeithlonrwydd ynni mewn neuaddau cymunedol ledled y sir. Gweithiodd y prosiect gyda chymunedau lleol i leihau allyriadau carbon, costau is, a gwella cynaliadwyedd trwy uwchraddio adeiladau, offer a defnydd ynni. 

Rhestr Prosiectau a Gymeradwywyd  

Cymunedau a Lle - Prosiectau a Gymeradwywyd (PDF, 565 KB)

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu