Gallai rhieni dros 1,000 o blant fod yn colli'r cyfle am ofal plant am ddim

9 Medi 2025

Mae'r cyngor wedi bod wrthi'n dadansoddi data i ddod o hyd i aelwydydd perthnasol a bydd yn ysgrifennu at bob un ohonynt dros yr wythnosau nesaf i'w hannog i wirio a ydynt yn gymwys.
Os ydynt, gallent leihau eu biliau neu gynyddu eu hincwm, os bydd derbyn mwy o ofal plant am ddim yn caniatáu iddynt weithio mwy o oriau.
Mae'r cyngor yn credu bod 48 o aelwydydd â phlant rhwng tair a phedwar oed, 150 gyda phlant sy'n ddwy oed, a 218 gyda phlant 18 mis yn colli'r cyfle.
Mae'r llythyr gan y cyngor yn esbonio pa gymorth costau gofal plant sydd ar gael ym Mhowys, ac yn cynnig helpu gyda cheisiadau, os oes angen.
- Gall rhieni a gwarcheidwaid wirio eu cod post i weld a ydynt yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg, a allai eu gwneud yn gymwys am 12 awr a hanner o ofal plant am ddim yr wythnos i blant dwy i dair oed, am 39 wythnos y flwyddyn: Dechrau'n Deg
- Gallai rhieni a gwarcheidwaid sy'n gweithio, gyda phlant tair i bedair oed, fod yn gymwys am hyd at 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar am ddim, am 48 wythnos y flwyddyn: https://www.llyw.cymru/cael-30-awr-o-ofal-plant-ar-gyfer-plant-3-4-oed
- Gallai rhieni a gwarcheidwaid, gyda phlant 11 oed neu'n iau, fod yn gymwys ar gyfer gofal plant di-dreth, gwerth hyd at £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn (neu hyd at £4,000 y flwyddyn os yw plentyn yn anabl): https://www.gov.uk/tax-free-childcare
"Rydym yn gwybod y gall dod o hyd i'r help cywir gyda chostau gofal plant fod yn ddryslyd, felly ry'n ni'n gobeithio y bydd y llythyrau hyn yn rhoi rhywfaint o eglurder i rieni Powys," meddai'r Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol. "Rydym yn annog holl rieni a gwarcheidwaid Powys i wirio a ydynt yn gymwys - efallai y cewch eich synnu ar yr ochr orau gan yr hyn sydd ar gael!"
Gall unrhyw un sydd â chwestiynau am gymorth gofal plant ym Mhowys, neu sydd angen help i wneud cais, ffonio'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01874 612419 neu e-bostio: powyschildcareteam@powys.gov.uk
Mae'r cyngor hefyd yn credu y gallai 331 o aelwydydd ym Mhowys, sy'n gymwys, fod yn colli'r cyfle am gymorth Cychwyn Iach i 768 o blant.
Mae'r cynllun hwn yn helpu gyda'r gost o brynu bwyd iach a llaeth i ferched beichiog a phlant dan bedair oed: https://www.healthystart.nhs.uk/how-to-apply/
Mae Cyngor Sir Powys wedi buddsoddi mewn meddalwedd dadansoddi data deallus am flwyddyn o'r enw LIFT (Traciwr Teuluoedd Incwm Isel), i helpu adnabod pobl sydd angen help.
Ym mis Mehefin ysgrifennodd y cyngor at bron i 900 o aelwydydd ym Mhowys, a oedd yn credu y gallent fod yn cael trafferthion ariannol wrth i filiau a phrisiau eraill godi. Ac yn gynharach y mis hwn ysgrifennodd at 700 o bobl y credai y gallent fod yn colli'r cyfle i hawlio Taliadau Annibyniaeth Bersonol.
Mae cyngor ariannol cyfrinachol am ddim ar gael ar unrhyw adeg.
I gael help fel tenant y cyngor:
- Ffoniwch: 01597 827464
- E-bostiwch: fsogroup@powys.gov.uk
- Gwefan: Gwybodaeth am Swyddogion Cymorth Ariannol
Ar gyfer pob aelwyd arall:
- Ffoniwch: 01597 826618
- E-bostiwch: wrteam@powys.gov.uk
- Gwefan: Cais am Gyngor Ariannol neu Gymorth Macmillan