Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan

Os na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gallwch ofyn i rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i fwrw eich pleidlais ar eich rhan a gelwir y person yma'n 'ddirprwy'.  Os hoffech i rywun bleidleisio fel dirprwy i chi, mae angen i chi ddewis person rydych chi'n ymddiried ynddynt i fynd i bleidleisio drosoch chi.

Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer un etholiad penodol, am gyfnod penodol o amser neu am yr uchafswm cyfnod o amser ar gyfer y math penodol o etholiad.

Mae gan bawb hawl i bleidlais drwy ddirprwy mewn etholiad penodol ond bydd gofyn i chi ddarparu rheswm dros bleidleisio drwy ddirprwy. Mae'r ffurflen y mae angen i chi ei chwblhau yn dibynnu ar y rheswm pam mae angen pleidlais ddirprwy arnoch.

Gallwch gael dirprwy os

  • na allwch fynychu'n bersonol i bleidleisio
  • oes gennych anabledd
  • rydych i ffwrdd ar gwrs addysgol
  • rydych i ffwrdd o'r gwaith
  • rydych wedi cofrestru fel pleidleisiwr tramor
  • rydych yn gweithio dramor i'r Cyngor Prydeinig neu fel gwas y Goron
  • rydych yn gwasanaethu dramor yn y Lluoedd Arfog
  • rydych wedi cofrestru fel etholwr dienw

Gallwch lawrlwytho'r cais perthnasol o Cais i bleidleisio drwy ddirprwy, ei gwblhau a'i ddychwelyd atom gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. 

Ar gyfer etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn unig y gallwch wneud cais arlein gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol https://www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwy-ddirprwy.  Ni allwch wneud cais arlein os ydych yn bleidleisiwr anhysbys neu'n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy oherwydd cyflogaeth, addysg neu oherwydd bod gennych anabledd. Mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen gais ar bapur.

Cofiwch mai'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd yw 5yp, 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad.

Gall rhywun fod yn ddirprwy i chi os ydynt:

  • yn 16 neu'n hŷn ar gyfer etholiadau'r Senedd a chynghorau lleol, neu'n 18 neu'n hŷn ar gyfer etholiadau Senedd y DU
  • wedi cofrestru i bleidleisio
  • yn gallu cyrraedd eich gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
  • yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad

Yn etholiadau seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gall rhywun ond bod yn ddirprwy i ddau berson sydd wedi'u lleoli yn y DU. Os ydynt yn gweithredu fel dirprwy i bobl sy'n byw dramor, gallwch weithredu fel dirprwy ar gyfer hyd at bedwar o bobl, ond dim ond dau o'r rhain all fod wedi'u lleoli yn y DU.

Yn etholiadau'r Senedd a chynghorau lleol, gall rhywun fod yn ddirprwy i'w berthnasau agos yn unig, yn ogystal â dau berson arall.

Sut i bleidleisio trwy ddirprwy

Dirprwy Argyfwng

Mewn rhai amgylchiadau, os oes gennych argyfwng sy'n golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am ddirprwy argyfwng hyd at 5yp ar ddiwrnod yr etholiad.

Rhaid i hyn fod yn rhywbeth nad oeddech chi'n ymwybodol ohono cyn y dyddiad cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy arferol:

  • Mae gennych argyfwng meddygol
  • Rydych i ffwrdd o'r gwaith
  • Mae eich prawf adnabod ffotograffig ar goll, wedi ei ddwyn, ei dinistrio neu ei ddifrodi (dim ond yn berthnasol ar gyfer etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu)

Mae ffurflenni cais ar gael i'w lawrlwytho o Pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng | Y Comisiwn Etholiadol.

 

Cysylltiadau

  • Ebost: electoral.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826202
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Corfforaethol Cyfreithiol a Democrataidd, Neuadd y Sir, Cofrestru Etholiadol, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Rhowch sylwadau am dudalen yma