Cais i bleidleisio drwy'r post
Os na allwch gyrraedd eich gorsaf bleidleisio am ba bynnag reswm, gallwch wneud cais am bleidlais bost ond mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gyntaf.
Gallwch wneud cais am bleidlais bost os ydych i ffwrdd ar wyliau neu os yw eich amserlen waith yn golygu na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio. Gallwch hefyd ddewis pleidleisio drwy'r post oherwydd y byddai'n fwy cyfleus i chi. Gellir anfon y bleidlais bost i unrhyw gyfeiriad, hyd yn oed dramor, ond cofiwch fod yn rhaid dychwelyd eich papur pleidleisio drwy'r post atom cyn 10.00yh ar ddiwrnod yr etholiad.
Rhaid i ffurflenni cais pleidleisio drwy'r post gyrraedd y Swyddfa Etholiadau erbyn 5yp, 11 diwrnod gwaith cyn y Diwrnod Pleidleisio.
Os byddwch yn dewis pleidleisio drwy'r post, bydd eich pecyn post sy'n cynnwys eich papur pleidleisio yn cael ei anfon atoch 1 - 2 wythnos cyn y diwrnod pleidleisio.
Eich pleidlais chi yn unig yw hi - gwarchodwch eich pleidlais bost
Gwybodaeth bleidlais bost

Gwneud cais a phleidleisio drwy bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am bleidlais bost yw arlein
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Gwneud cais a phleidleisio drwy bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu)
Gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiadau'r Senedd, Cyngor Sir a Chymuned
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar bapur (ni allwch wneud cais arlein).
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiadau'r Senedd, Cyngor Sir a Chymuned)
Deddf Etholiadau 2022 - Diweddariad Pwysig: Ailymgeisio am eich Pleidlais drwy'r Post
Ailymgeisio am eich Pleidlais drwy'r Post: Oherwydd newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022, rhaid i bob pleidleisiwr a wnaeth gais am bleidlais drwy'r post cyn 31 Hydref 2023 ailymgeisio erbyn 31 Ionawr 2026 i barhau i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Deddf Etholiadau 2022 - Diweddariad Pwysig: Ailymgeisio am eich Pleidlais drwy'r Post)