Toglo gwelededd dewislen symudol

Hawliau Tramwy: Ymddygiad peryglus

Rydym ni'n gyfrifol am wneud yn siwr bod hawliau tramwy cyhoeddus yn ddiogel.  Gweler hefyd weiren bigog a ffensys trydan, ac anifeiliaid peryglus.

 

Tir peryglus wrth ymyl hawl tramwy cyhoeddus

O dro i dro bydd mannau peryglus heb ffens ar dir cyfagos, a allai fod yn beryglus i ddefnyddwyr y llwybr.  Byddwn yn y lle cyntaf yn siarad â pherchennog y tir ac yn ei annog i gael gwared â'r perygl neu godi ffens o'i amgylch. Gallwn fynnu fod yn rhaid iddo/iddi wneud y gwaith trwy gyflwyno rhybudd. Os na fydd y perchennog yn cydymffurfio, gallwn wneud y gwaith ein hunain ac adfer y gost gan y perchennog. 

 

Drylliau ar hawliau tramwy

Nid yw'n drosedd i saethu dros hawl tramwy cyhoeddus, er y gallai gwneud hynny gael ei ystyried yn niwsans neu'n godi braw.  Fodd bynnag, mae'n drosedd i saethu dryll tanio o fewn 50 troedfedd i ffordd gerbydau (Cilffyrdd fel rheol, ond gallai gynnwys Cilffyrdd Cyfyngedig) os bydd yn anafu, peryglu neu'n ymyrryd ar unrhyw un sy'n defnyddio'r ffordd.

Mae hefyd yn drosedd i fod â gynnau aer wedi'u llwytho - neu unrhyw ddryll tanio arall, os yw wedi'i lwytho neu beidio ynghyd â bwledi - mewn man cyhoeddus, yn cynnwys unrhyw hawl tramwy cyhoeddus, oni bai bod gan yr unigolyn awdurdod cyfreithlon neu esgus rhesymol, e.e. perchennog tir neu denant yn saethu fermin ar ei dir ei hun.

Os byddwn yn pryderu am ddiogelwch y cyhoedd sy'n defnyddio'r hawl tramwy, byddwn yn cyfeirio'r mater at yr heddlu.

 

Cystadlaethau a threialon cyflymder

Mae'n drosedd i gynnal ras cerbydau neu feiciau modur ar briffordd heb ganiatâd. Mae hyn yn berthnasol i lwybrau troed a llwybrau ceffyl, ynghyd â chilffyrdd cyfyngedig.

 

Codi braw neu ymddygiad bygythiol er mwyn atal y defnydd o hawl tramwy cyhoeddus

Gall defnyddio ymddygiad bygythiol er mwyn atal y defnydd o hawl tramwy cyhoeddus fod yn drosedd gan y gall olygu rhwystr ar y llwybr.  Yn y lle cyntaf, byddwn yn ceisio ymdrin ag unrhyw faterion a arweiniodd at y sefyllfa. Yna, gallwn roi rhybudd i'r troseddwr a chynnwys yr heddlu, fel sydd angen.

 

Cwm bygythiol

Mae'n drosedd i gadw ci peryglus neu fygythiol ar hawl tramwy.  Byddwn yn gofyn i berchennog y tir weithredu i wneud yn siwr nad yw'r ci yn atal y cyhoedd rhag defnyddio'r hawl tramwy. Gallwn hefyd roi gwybod i'r heddlu a byddant yn cynghori achwynwyr i ddweud wrth yr heddlu'n uniongyrchol.

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma