Toglo gwelededd dewislen symudol

Allwch chi hawlio gostyngiad yn nhreth y cyngor?

Efallai y byddwch yn gallu hawlio gostyngiad ar Dreth y Cyngor, e.e. os yw ty yn wag neu os yw'r unigolyn sy'n byw yno yn anabl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu gwefan gwirio treth y cyngor i weld allwch chi dalu llai o dreth y cyngor.

O dan Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac adran 76 Deddf Llywodraeth Leol 2003, gall y Cyngor leihau faint o Dreth y Cyngor y bydd gofyn i chi ei dalu. Gall y Cyngor leihau swm Treth y Cyngor mewn achos unigol neu mewn dosbarth o achosion lle nad yw disgownt neu eithriad cenedlaethol yn berthnasol.

Darllenwch y Fframwaith Disgownt Lleol (Adran 13A) yma

Os ydych ar incwm isel

Os ydych ar incwm isel, gallwn leihau eich bil treth y cyngor. Gallwch gael mathau eraill o help hefyd.

Disgowntiau a gostyngiadau Treth y Cyngor (pobl)

Mae Treth y Cyngor wedi'i seilio ar 2 neu fwy o oedolion cymwys yn byw ar yr un aelwyd. Dywedwch wrthym am unrhyw sefyllfa sy'n wahanol i hyn er mwyn i ni wneud yn siwr nad ydych yn talu mwy o dreth Cyngor nag sydd raid.

Gostyngiadau Treth y Cyngor ac eithriadau ar eiddo penodol

Dan Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac Adran 76 Deddf Llywodraeth Leol 2003, gall y cyngor leihau faint o Dreth y Cyngor sydd angen i chi ei dalu. Gall y cyngor leihau swm Treth y Cyngor mewn achos unigol neu ddosbarth o achosion lle ni cheir disgownt ac eithriadau cenedlaethol.