Gwneud cais i gyfnewid ty
A wyddoch chi y gall tenantiaid cymdeithasol wneud cais i gyfnewid cartrefi â thenantiaid awdurdodau lleol eraill neu gymdeithasau tai, os ydynt, er enghraifft, yn symud i dref wahanol neu'n chwilio am gartref mwy neu lai.
Gelwir hyn yn cydgyfnewid.
Noder: Os ydych yn denant cymdeithasol presennol ym Mhowys ac yn dymuno gwneud cais am drosglwyddiad, gallwch hefyd ymuno â'n Cofrestr Tai Cyffredin, drwy gyflwyno cais am dai ar-lein drwy ein tudalen Cartrefi ym Mhowys.
Mae yna rhai amodau sydd angen eu diwallu er mwyn i'r gyfnewid digwydd.
- Rhaid i chi fod yn denant pendant/deiliad contract. Os nad ydych yn siŵr pa fath o denantiaeth sydd gennych, gofynnwch i'ch landlord.
- Rhaid i chi gael caniatâd eich landlord.
Yn gyffredinol, dylai eich landlord rhoi caniatâd, oni bai ei bod yn rhesymol peidio â gwneud hynny. Gall caniatâd fod yn amodol, ond bydd rhaid i unrhyw amodau fod yn rhesymol.
Mae enghreifftiau o'r hyn y gall eich landlord eu hystyried yn cynnwys y canlynol:
- Eich contract fel tenant (ac aelodau eraill o'r cartref).
- Unrhyw arian sy'n ddyledus i'ch landlord (gan gynnwys rhent, taliadau gwasanaeth, ad-daliadau)
- Y maint a'r math o eiddo yr ydych am symud iddo (yn unol â'r Cynllun Dyrannu Tai Cyffredin Cartrefi ym Mhowys)
- Amgylchiadau eraill yn unol ag Atodlen 6 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
- Rhaid eich bod wedi archwilio'r eiddo yr ydych yn dymuno symud iddo a bod yn barod i'w dderbyn yn ei gyflwr presennol.
- Rhaid i'r cyfnewid fod yn ddilys, gyda phawb yn symud i'r eiddo newydd fel eu cartref parhaol.
Lle rhoddwyd caniatâd, RHAID I CHI BEIDIO symud nes bod eich swyddog tai wedi cytuno ar ddyddiad a bod yr holl wiriadau diogelwch wedi'u cynnal a'u pasio. Gall methiant i gydymffurfio â hyn arwain at ofyn i chi ddychwelyd i'ch eiddo gwreiddiol.
Mae'n rhaid i'ch landlord roi gwybod i chi o fewn un mis o dderbyn y cais neu os gofynir am ragor o wybodaeth, o fewn mis i chi ddarparu'r holl wybodaeth.
Os hoffech chi gyflwyno cais am gydgyfnewid, llenwch y cais isod:
Cais cyfnewid tenantiaeth Cais cyfnewid tenantiaeth
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau