Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwsio'n Gyfrifol.

Ni sy'n gyfrifol am rywfaint o waith trwsio.

Eich cyfrifoldeb chi fydd rhai o'r atgyweiriadau, a bydd angen i chi eu gwneud nhw'n brydlon, neu i dalu rhywun i'w gwneud nhw i chi.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gosod handlenni drysau newydd, cliciedau drws, bocsys llythyrau a chnocwyr os ydynt wedi torri 
  • gosod cloeon newydd a chael allweddi newydd os yw'r cloeon wedi torri neu allweddi ar goll
  • clirio pibellau gwastraff sinciau, baddonau a thoiledau, a glanhau gwteri, lle mae'r rhwystr wedi'i achosi gan wastraff o'r cartref
  • ailosod gwydr mewn ffenestri a drysau (oni bai y cafwyd eu difrodi gennym ni neu ein contractwyr)
  • gosod drysau mewnol newydd os cafwyd eu difrodi'n fwriadol
  • naddu drysau fel eu bod yn osgoi goruchuddion llawr
  • plygiau a chadwynnau ar faddonau, sinciau a basnau
  • seddi a gorchuddion toiledau
  • gosod teils newydd yn lle rhai sydd wedi cracio a thorri
  • ffiwsys trydannol, bylbiau, tiwbiau a thopiau plygiau
  • silffoedd, bachau cotiau ac ati.
  • pelmetau a gosodiadau llenni
  • addurno mewnol
  • gosod basgedi tanau, cribellau, bariau, briciau tân a stripiau gwydr ar theclynnau gwresogi newydd os yw'n llai na ddwy flwydd oed
  • ffensio rhwng eiddo
  • tiwbiau nwy hyblyg ar gyfer poptai
  • llwybrau (ac eithrio prif lwybrau sy'n arwain at ddrysau ffrynt a chefn)
  • biniau sbwriel a chyfleusterau sychu dillad

Ar eich cais chi, gallwn wneud gwaith y byddwch chi'n gyfrifol amdano, ond chi fydd yn talu am y gwaith hwn.  Ewch i gwaith trwsio y gallwn godi tâl amdanynt.