Gwenwyn Bwyd
Mae teimlo'n gyfoglyd, cyfogi, poen yn y bol a dolur rhydd yn symptomau cyffredin o wenwyn bwyd. Weithiau byddwch hefyd yn dioddef o wres. Gall rhai mathau eraill o salwch, rhai meddyginiaethau, a gormod o alcohol hefyd achosi symptomau tebyg i wenwyn bwyd.
Os cewch wenwyn bwyd, mae yna dri pheth sylfaenol y dylech chi eu gwneud:
- ailhydradu, hynny yw, yfed digon o hylif - yfwch ddigon o hylif ac efallai ychydig o foddion ailhydradu (ar gael mewn fferyllfeydd)
- gofynnwch am gymorth meddygol - os ydych yn poeni am eich iechyd neu iechyd rhywun arall, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru (NHS 111), neu â'ch Meddyg Teulu i gael cyngor (yn enwedig yn achos merched beichiog, yr henoed, plant, neu unrhyw un sydd eisoes yn sâl)
- rhowch wybod - os credwch mai bwyd a gafodd ei baratoi y tu allan i'r cartref, rhowch wybod i'ch gwasanaeth iechyd yr amgylchedd lleol am y digwyddiad
Pam rhoi gwybod?
Os credwch mai bwyd o dy bwyta neu le gwerthu bwyd arall sydd wedi achosi eich salwch, yna mae angen i adran leol gwasanaeth iechyd yr amgylchedd wybod er mwyn iddo ymchwilio i'r cwmni dan sylw. Os deuwn o hyd i broblem gydag arferion hylendid bwyd y cwmni, a'r cwmni o ganlyniad i hynny yn gwella'i arferion, fe allai hynny arbed pobl eraill rhag mynd yn sâl.
Rhoi gwybod am wenwyn bwyd Rhoi gwybod am wenwyn bwyd
Rydym yn delio â thua 320 o achosion unigol o wenwyn bwyd ac achosion o wenwyn bwyd bob blwyddyn. Defnyddiwch y dolenni hyn i gael mwy o wybodaeth ar wenwyn bwyd a heintiau penodol.
- Beth yw Salmonella?
- Hepatitis A
- Heintiau coluddol
- E.coli O157
- Cryptosporidiwm
- Campylobacter
- Gastro-enteritis feirysol
- Giardia Lamblia
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau