Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Efallai y bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau ailgylchu cartrefi a gwastraff gweddilliol (bin du, sachau porffor) dros wythnos Gŵyl y Banc.

Gofyn am fathodyn glas

blue badge

Trefniant cenedlaethol yw'r Cynllun Bathodyn Glas sy'n rhoi hawliau/gostyngiadau parcio i bobl sydd ag anawsterau cerdded difrifol, boed os ydynt yn yrwyr neu'n deithwyr. Mae hyn yn helpu pobl sydd â bathodynnau i fyw eu bywydau yn y ffordd arferol trwy hwyluso symud a theithio o amgylch y lle.

NEWYDDION: Taliadau parcio newydd ar waith ar gyfer deiliaid bathodynnau glas 
O 1 Awst 2025 cyflwynwyd taliadau newydd ym meysydd parcio oddi ar y stryd y Cyngor. O'r dyddiad hwn, nid oedd deiliaid bathodynnau glas yn gallu derbyn y budd o'r consesiwn llawn o allu parcio am ddim ac mae bellach yn ofynnol iddynt dalu i ddefnyddio'r meysydd parcio. Mae'r consesiwn wedi'i newid i ddarparu awr ychwanegol ar ôl i docyn a brynwyd dod i ben pan fydd bathodyn glas dilys yn cael ei arddangos hefyd. Cytunwyd ar y newid gan y Cyngor Llawn fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb er mwyn sicrhau bod cyllideb gytbwys yn cael ei chymeradwyo. Gellir gweld manylion taliadau meysydd parcio yn y fan yma Ffioedd safonol y meysydd parcio - Cyngor Sir Powys

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu