Toglo gwelededd dewislen symudol

CDLI Mabwysiedig (2011 - 2026)

Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol Powys (2011-2026) gan Gyngor Sir Powys ar 17 Ebrill 2018 a daeth i rym ar unwaith.  Mae'n berthnasol i bob rhan o Bowys heblaw ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r Cynllun hwn yn disodli ac yn newid yr hen Gynllun Datblygu Unedol Powys (2001-2016).

Mae Cynllun Datblygu Lleol Powys yn cynnwys Datganiad Ysgrifenedig a'r Cynigion a'r Mapiau Mewnosod ac yn cyflwyno polisïau'r cyngor ar ddatblygu a'r defnydd o dir ym Mhowys.  Law yn llaw â pholisïau cynllunio cenedlaethol, bydd yn arwain penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar waith datblygu a defnydd tir yn y dyfodol o fewn ardal a chyfnod y cynllun.

CDLl Mabwysiedig Powy - Datganiad Ysgrifenedig (PDF) [7MB]

Datganiad Mabwysiadu (PDF) [464KB]

Rhybudd Mabwysiadu (PDF) [207KB]

CDLl Mabwysiedig Powys - Cynigion a Mapiau Mewnosod Ebrill 2018

Dogfennau Asesiad CDLl Powys, 2018

Hanes CDLl Powys a fabwysiadwyd