Toglo gwelededd dewislen symudol

Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor

Byddwn yn gallu gweithio allan faint o ostyngiad a gewch trwy edrych ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn, eich cynilion, eich amgylchiadau personol a'r rhent y mae'n rhaid i chi ei dalu.

 

Os yw eich aelwyd chi ar incwm isel, fe allech dderbyn cymorth tuag at eich bil Treth y Cyngor neu ran ohono trwy'r Cynllun Lleihau Treth y Cyngor. 

Os ydych chi'n derbyn y budd-daliadau isod, gallwch wneud cais i asesu'r hyn sydd gennych hawl iddo ac i addasu eich bil treth y cyngor:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm

Neu

  • Rydych yn aelwyd sydd ar incwm isel.

I weld a oes gennych hawl i ostyngiad a faint, byddwn yn edrych ar eich incwm wythnosol ac a oes gennych unrhyw gyfalaf.  Bydd cyfalaf yn cynnwys cynilion ac eiddo sy'n berchen i chi.

Bydd cyfanswm y gostyngiad hefyd yn dibynnu ar ydych chi o oedran gweithio neu'n bensiynwr.

Ni chewch ostyngiad os ydych chi:

  • dan 65 oed gyda chyfalaf o £16,000 neu fwy
  • dros 65 oed gyda chyfalaf o £16,000 neu fwy (oni bai eich bod chi neu'ch partner yn derbyn rhan Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn.

 

Credyd Cynhwysol

Os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi wneud cais i leihau eich treth y cyngor os nad yw eich bil treth y cyngor eisoes wedi'i addasu i ystyried hynny.

 

Sut i wneud cais

Y ffordd gyflymach i hawlio yw llenwi'r ffurflen gais ar-lein, ond os ydych chi angen help llaw, mae croeso i chi gysylltu â ni

 

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad

Am fanylion am sut i apelio yn erbyn gostyngiad treth y cyngor dilynwch y ddolen hon:  https://www.valuationtribunal.wales/cy/gostyngiadaur-dreth-gyngor.html

 

Pethau i'w cofio

  • Anfonwch y ffurflen ar unwaith gan y bydd hyn yn effeithio ar bryd y gallwn ddechrau talu'ch budd-dal.
  • Os ydych am hawlio Budd-dal Tai, gallwch ddefnyddio'r un ffurflen i hawlio cymorth tuag at Dreth y Cyngor (Gostyngiad), a Phrydau Ysgol am Ddim.
  • Ni chewch fudd-dal os na wnewch gais.

 

Llenwi'r ffurflen hawlio budd-dal tai / gostyngiad yn nhreth y cyngor ar-lein Ffurflen hawlio budd-dal tai / gostyngiad yn nhreth y cyngor

 

Canfod a ydych yn gallu cael disgownt neu eithriad treth y cyngor i leihau eich bil Allwch chi gael disgownt Treth y Cyngor?

 

Credyd Cynhwysol - Ydy e'n effeithio arnoch CHI? Sut mae budd-daliadau'n newid

 

Cysylltiadau ar gyfer:

  • Ffôn: 01597 827462 (pob ardal)
  • E-bost Gogledd Powys: montawards@powys.gov.uk / Cyfeiriad: Ty Maldwyn, Stryd Y Nant, Y Trallwng, Powys, SY21 7PH
  • E-bost De Powys a Canol Powys: breconawards@powys.gov.uk / Cyfeiriad: Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR

Mae apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gael yn ein swyddfeydd yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Trallwng ac Ystradgynlais.  I drefnu apwyntiad, galwch ni.

Rhowch sylwadau am dudalen yma