Toglo gwelededd dewislen symudol

Mathau o gais

Gallwch naill ai wneud cais Rhybudd Adeiladu neu gallwch wneud cais Cynlluniau Llawn.

Dewis Cais Rhybudd Adeiladu

Mae hyn yn symlach na chyflwyno cynlluniau llawn, ond dim ond ar gyfer eiddo domestig y gallwch ddefnyddio'r dull hwn. Dilynwch y camau hyn:

  1. Llenwch y ffurflen gais neu rybudd adeiladu. Efallai y bydd angen cynlluniau ar gyfer eich cynigion neu gyfrifiadau manwl yn ddiweddarach.
  2. Penderfynwch ar y dyddiad y byddwch yn dechrau'r gwaith a rhowch wybod i ni.
  3. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni am drafodaeth anffurfiol am eich cynigion.
  4. Edrychwch ar y nodyn cyfarwyddyd Cynllun Taliadau i ddod o hyd i'r tâl rhybudd adeiladu y bydd angen i chi ei dalu.

Manteision Rhybuddion Adeiladu

Mae'n syniad da i ddefnyddio Rhybudd Adeiladu lle nad yw'r gwaith arfaethedig yn rhy helaeth neu gymhleth, ond byddwch yn wyliadwrus - mae gofyn cael gwybodaeth ychwanegol yn aml megis darluniau dylunio manwl neu gyfrifiadau peiriannydd strwythurol gyda chynlluniau cymhleth neu anarferol - gall unrhyw oedi gyda chyflenwi'r wybodaeth hon arafu cynnydd y gwaith ac rydym yn argymell yn gryf fod yr holl atebion dylunio yn cael eu cytuno cyn i'r gwaith ddechrau.  

Gweithdrefn Rhybuddion Adeiladu

O fewn y weithdrefn Rhybuddion Adeiladu, bydd y gwaith adeiladu'n cael ei archwilio fel y bydd yn mynd yn ei flaen. Bydd Arolygydd Rheoli Adeiladu yn eich cynghori os gwelir nad yw'r gwaith, ar unrhyw adeg, yn cydymffurfio â'r Rheoliadau. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn i chi am fanylion os byddwn angen gwybodaeth bellach am eich cynnig naill ai cyn i chi ddechrau neu yn ystod y gwaith. Rhaid i chi deimlo'n hyderus y bydd y gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau - os nad yw'n cydymffurfio, efallai y byddwn yn gofyn i chi ei gywiro.

Dewis Cais Cynlluniau Llawn

Gellir defnyddio'r dull hwn o hysbysu (cynlluniau llawn) ar gyfer pob math o adeilad. Os byddwch yn defnyddio'r dull hwn, dylech ddilyn y camau hyn:

  1. Llunio cynlluniau hyd at raddfa. Dylent gynnwys manylebau llawn. Efallai y byddwch yn dymuno cyflogi pensaer neu syrfewr.
  2. Llenwi'r ffurflen gais.
  3. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni am drafodaeth anffurfiol am eich cynigion.
  4. Edrychwch ar y nodyn cyfarwyddyd Rhestr o Daliadau i ddod o hyd i gost y cynllun a'r ffi archwilio y bydd angen i chi eu talu. 

Manteision y Cynllun Llawn

  • Byddwn yn eich cynghori ar y Rheoliadau Adeiladu yn ystod cam dylunio'r prosiect, sy'n golygu y bydd eich cynlluniau'n fwy tebygol o gael cymeradwyaeth gyda'r lleiaf o oedi.
  • Byddwn yn rhoi penderfyniad i chi o fewn tair wythnos.
  • Bydd copi o'r cynllun cymeradwy yn cael ei anfon atoch ar gyfer eich cofnodion.

Gweithdrefn y Cynlluniau Llawn

Ar gyfer cais Cynlluniau Llawn, bydd angen i chi sicrhau fod cynlluniau'n cael eu llunio, sy'n dangos yr holl fanylion adeiladu, o ddewis ymhell cyn y byddwch yn dechrau adeiladu. Byddwn yn gwirio'r cais yn drwyadl, ac efallai y byddwn yn gofyn am ddiwygiadau i'r cynlluniau cyn y byddwn yn rhoi cymeradwyaeth. Efallai y byddwn yn ychwanegu amodau at gymeradwyaeth, gyda'ch caniatâd ysgrifenedig.

 

Cyswllt

  • Ebost: buildingcontrol@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01874 612290
  • Cyfeiriad:
    • Aberhonddu Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR
    • Llandrindod - Cyngor y Sir, Llandrindod LD1 5LG
    • Y Trallwng - Ty Maldwyn, Stryd Brook, Y Trallwng SY21 7PH
  • Facebook
  • Twitter

Eich sylwadau am ein tudalennau