Toglo gwelededd dewislen symudol

Pryd i ymgeisio

Bydd Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol fwy na thebyg os ydych eisiau:

  • Codi adeilad newydd neu estyn neu addasu adeilad presennol
  • Darparu gosodiadau megis draeniau neu offer cynhyrchu gwres
  • Darparu cyfleusterau golchi a glanweithdra neu storfa dwr poeth
  • Gosod ffenestri gwydrau dwbl newydd
  • Newid y defnydd o'r adeilad
  • Tynnu wal fewnol sy'n dal pwysau i lawr

Efallai y byddant yn berthnasol i newidiadau penodol i'r defnydd o adeilad presennol, neu os gallai eich gwaith gael goblygiadau ar gyfer eiddo cyfagos. Cysylltwch â ni cyn dechrau ar unrhyw waith adeiladu, fel y gallwn benderfynu a yw'r Rheoliadau yn berthnasol ai peidio.

Gallwch hefyd ddefnyddio Ty Rhyngweithiol y Porth Cynllunio i weld a ydych angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.

Newid mewn defnydd

  • Pan  fo adeilad na ddefnyddiwyd yn flaenorol fel anheddle yn cael ei ddefnyddio fel un.
  • Lle mae adeilad yn cynnwys fflat pan nad oedd yn flaenorol.
  • Pan ddefnyddir adeilad fel gwesty, ysbyty, cartref preswyl neu dy preswylio pan na ddefnyddiwyd ef fel hyn yn flaenorol.
  • Pan mae adeilad yn dod yn adeilad cyhoeddus (e.e. ysgol, theatr, neuadd, eglwys) pan nad oedd yn flaenorol.
  • Pan mae nifer o aneddleoedd mewn adeilad preswyl yn newid
  • Pan nad yw adeilad oedd wedi'i eithrio o ofynion y rheoliadau bellach wedi'i eithrio.

Cynllun Unigolyn Medrus

Os ydych yn bwriadu defnyddio Cynllun Unigolyn Medrus ar gyfer gwaith megis: gwaith trydanol, boeleri a ffenestri, nid oes angen I chi wneud cais Rheoliadau Adeiladu i ni.

Cyswllt

  • Ebost: buildingcontrol@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01874 612290
  • Cyfeiriad:
    • Aberhonddu Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR
    • Llandrindod - Cyngor y Sir, Llandrindod LD1 5LG
    • Y Trallwng - Ty Maldwyn, Stryd Brook, Y Trallwng SY21 7PH
  • Facebook
  • Twitter

Eich sylwadau am ein tudalennau