Y costau sydd ynghlwm ag ymgeisio
Mae cais Cynllun Llawn yn cynnwys taliad dau gam, un taliad pan fyddwch yn cyflwyno eich cynlluniau (Tâl Cynllun) a'r llall yn dilyn yr archwiliad safle cyntaf (Tâl Archwiliad).
Ar gais Rhybudd Adeiladu, mae'r tâl llawn i'w dalu pan fyddwch yn cyflwyno'r Rhybudd.
Ar gyfer Rheoleiddio, bydd y gost yn 140% o'r ffi Rhybudd Adeiladu ac eithrio TAW.
Yn hytrach na'n ffioedd a hysbysebwyd, gallwch ofyn i ni am ddyfynbris. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r rhif ar y dudalen hon.
Trefnu archwiliad safle trwy ap symudol LABC Powys. Gallwch nawr gysylltu â ni i drefnu archwiliad safle ar eich ffôn symudol unrhyw adeg o'r dydd, sy'n grêt os ydych chi allan neu ar y safle. Llwythwch ein ap archwiliad safle LABC Powys (ar gyfer Apple ac Android) ar eich ffôn symudol. Cyfarwyddiadau yma. Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau