Tystysgrifau Cwblhau
Mae gofyn i chi ddweud wrthym ni pan fydd y gwaith wedi gorffen fel y gallwn gynnal archwiliad terfynol a chyflwyno tystysgrif cwblhau.
Rydym yn argymhell y dylai'r Syrfëwr Rheoli Adeiladu gynnal yr Archwiliad Olaf cyn y bydd y contractwr yn gadael y safle a chyn i chi wneud y taliad yn derfynol ar gyfer y prosiect.
Ar gyfer archwiliadau terfynol a gynhelir chwe mis wedi cwblhau'r gwaith, efallai y bydd tâl ychwanegol yn cael ei godi.
Os yw tystysgrif Cwblhau newydd o ran y Rheoliadau Adeiladu yn ofynnol, dylech gysylltu â Rheoli Adeiladu. Bydd ffi o £35 yn daladwy a gellir ei wneud dros y ffôn. Gellir naill ai bostio'r tystysgrif newydd neu ei anfon dros e-bost atoch chi a/neu eich cyfreithiwr.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau