Pryd allwch chi ddechrau'r gwaith
Does dim rhaid i chi aros i gael cymeradwyaeth i'ch cynlluniau cyn i chi ddechrau'r gwaith. Fodd bynnag, mae cael cymeradwyaeth iddynt yn rhoi ychydig o ddiogelwch i chi yn erbyn costau diangen.
Wedi i chi roi Rhybudd Adeiladu i ni neu anfon cynlluniau atom, gallwch ddechrau'r gwaith ar yr amod eich bod yn cysylltu â ni a threfnu i syrfëwr archwilio. Efallai y bydd gofyn cael gwybodaeth i gyfiawnhau rhai eitemau (e.e. cyfrifiadau strwythurol ar gyfer trawstiau pren a gwaith dur).
Os byddwch yn mynd yn eich blaen gyda'r gwaith heb roi gwybod i ni, efallai y bydd gofyn i chi agor y gwaith fel y gall Syrfëwr Rheoli Adeiladu wirio os yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau. Bydd ein Syrfëwr Rheoli Adeiladu yn gweithio'n agos gyda'ch contractwr i sicrhau fod eich prosiect yn mynd yn ddidrafferth, ei fod ar amser ac yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau