Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ceisiadau Bathodynnau Glas Aflwyddiannus

Ni fydd pob cais yn llwyddiannus.  Os byddwch angen rhagor o wybodaeth am eich amgylchiadau unigol, anfonwch e-bost atom yn bluebadges@powys.gov.uk neu ffoniwch ni ar y rhif ffôn isod.

Nid oes unrhyw apeliadau statudol yn erbyn cael eich gwrthod i gael Bathodyn Glas.  Dilynir canllawiau Llywodraeth Cymru, ond nid ydyn nhw'n gallu ymyrryd mewn achosion unigol. 

Os ydych chi'n gallu darparu gwybodaeth neu dystiolaeth newydd na chafwyd ei gynnwys gyda'ch cais unigol, gallwn adolygu'r penderfyniad.  Mae'n rhaid i chi anfon hyn atom o fewn un mis calendar o'ch cais.

Ni fyddwn yn adolygu'r penderfyniad am eich cymhwysedd os nad ydych yn darparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth newydd.

Ni fydd ymgeiswyr yn derbyn ad-daliad am unrhyw gostau oedd ynghlwm â chael tystiolaeth i gefnogi eu cais. 

Cyswllt

  • Ebost: bluebadges@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827466
  • Cyfeiriad: Cynllun Bathodyn Parcio i Bobl Anabl, Neuadd Y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau