Toglo gwelededd dewislen symudol

Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

Gallwn ystyried amrywiaeth o sefyllfaoedd a bwriad y taliadau hyn yw helpu pobl mewn amgylchiadau eithriadol, ac am gyfnodau byr i ymdopi ag amgylchiadau anodd.

 

Pwy sy'n gallu hawlio Taliad Disgresiwn ar Gostau Tai?

Unrhyw un sydd ag angen rhagor o help gyda chostau tai ac sy'n hawlio'r canlynol:

  • Budd-dal Tai neu
  • Gredyd Cynhwysol gyda chostau tai tuag at gyfrifoldebau rhentu

Allwch chi ddim cael Taliad Disgresiwn at Gostau Tai (DHP) i'ch helpu i dalu Treth y Cyngor. Bydd angen i chi hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor.

Mae'r llywodraeth wedi rhoi arian i gynghorau roi DHP I bobl y mae'r diwygiadau llesiant wedi effeithio arnynt, sy'n cynnwys:

  • Y cap ar fudd-daliadau
  • Tynnu'r cymhorthdal ystafell sbâr yn y sector eiddo cymdeithasol ar rent (treth ystafell wely)
  • Newidiadau I gyfraddau Lwfans Tai Lleol, gan gynnwys unfannu am 4 blynedd

Efallai y bydd rhai pobl yn gymwys i gael cymorth am gyfnod hwy.

 

Sut gallwch chi ddefnyddi'r taliad?

Efallai y byddwch yn derbyn DHP I dalu eich costau tai, er enghraifft:

  • diffyg yn y rhent
  • blaendaliadau rhent neu rent o flaen llaw os oes angen i chi symud tŷ
  • Help i symud tŷ os ydych yn gwneud hyn er mwyn gwella eich sefyllfa rhent
  • Mewn ambell achos, taliad tuag at ôl-ddyledion rhent os ydych yn wynebu cael eich troi allan o'ch cartref

 

Os oes unrhyw unigolyn neu asiantaeth yn rhoi cymorth i chi ym Mhowys, mae ffurflenni ar gael ganddyn nhw hefyd.

Bydd pob achos yn cael ei asesu ar ei deilyngdod ei hun, ac mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd unrhyw daliad yn eich helpu i symud tuag at well sefyllfa, amgylchiadau neu ganlyniadau. Felly rydym yn disgwyl i chi weithio gyda ni neu'r asiantaethau sy'n bartneriaid â ni i geisio gwella pethau i chi.

Bydd unrhyw Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn a gewch tuag at dalu'r rhent yn cael eu talu gyda'ch Budd-dal Tai naill ai'n uniongyrchol i chi neu i'ch Landlord. Budd unrhyw daliadau cymorth unigol yn cael eu talu'n uniongyrchol fel arfer, e.e. costau symud ty i'r cwmni cludiant sy'n symud eich pethau.

 

Sut i wneud cais

Y ffordd gyflymach i hawlio yw llenwi'r ffurflen gais ar-lein, ond os ydych chi angen help llaw, mae croeso i chi gysylltu â ni

 

Llenwi'r ffurflen hawlio budd-dal tai / gostyngiad yn nhreth y cyngor ar-lein Llenwch y ffurflen hawlio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ar-lein

Canfod a ydych yn gallu cael disgownt neu eithriad treth y cyngor i leihau eich bil Allwch chi gael disgownt Treth y Cyngor?

Credyd Cynhwysol - Ydy e'n effeithio arnoch CHI? Sut mae budd-daliadau'n newid

 

Cysylltiadau ar gyfer:

  • Ffôn: 01597 827462 (pob ardal)
  • E-bost Gogledd Powys: montawards@powys.gov.uk / Cyfeiriad: Ty Maldwyn, Stryd Y Nant, Y Trallwng, Powys, SY21 7PH
  • E-bost De Powys a Canol Powys: breconawards@powys.gov.uk / Cyfeiriad: Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR

Mae apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gael yn ein swyddfeydd yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Trallwng ac Ystradgynlais.  I drefnu apwyntiad, galwch ni.

Rhowch sylwadau am dudalen yma