Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut rydym yn gwario ein harian

Fel cyngor, rydym am roi gwybod i chi am ein harian. Bob blwyddyn mae'n ofynnol dan y gyfraith ein bod yn gosod cyllideb gytbwys, ond mae hyn yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae llawer o bethau yn effeithio ar ein cyllideb felly mae'r dudalen hon yn ceisio egluro a helpu pobl i ddeall o ble y cawn ein harian a sut rydym yn ei wario.

Rydym yn un o'r cyflogwyr mwyaf ym Mhowys, gan ddarparu cannoedd o wasanaethau i bron 60,000 o aelwydydd ar draws 2,000 milltir sgwâr (sef chwarter o arwynebedd tir Cymru!).

Ymhlith y gwasanaethau hyn mae:

  • Gofal cymdeithasol
  • Ysgolion
  • Adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd, parciau a seilwaith arall
  • Gwasanaethau cynllunio a rheoli adeiladu
  • Casgliadau gwastraff
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Llyfrgelloedd
  • ... a llawer mwy!

Byddwn yn derbyn ein harian mewn tair ffordd, sef:

  1. Gan Lywodraeth Cymru
  2. Yr incwm a godwn (trwy ffioedd a thaliadau)
  3. Treth y cyngor

Daw 70% enfawr o'n harian gan Lywodraeth Cymru a fel pob sefydliad sector cyhoeddus, rydym yn rheoli ein hadnoddau'n ofalus ac yn ceisio gwneud mwy gyda llai o arian. Ond, mae llawer o ffactorau yn cael effaith ar ein cyllideb. Mae rhai o'r rhain yn cynnwys: strwythurau gwleidyddol sy'n newid, deddfwriaeth newydd, gofynion gwasanaethau, cyflwr yr economi, demograffeg, a digwyddiadau na allwn eu rhagweld.

Mae yna heriau anodd o'n blaen, ond ni allwn golli golwg ar yr amrediad eang o wasanaethau gwerthfawr a ddarparwn a'r camau breision ry'n ni'n eu cymryd i drawsnewid y sefydliad.

Rhaid i ni barhau i fuddsoddi mewn rhai prosiectau allweddol fel ysgolion a thai newydd gyda chymorth grantiau Llywodraeth Cymru. Rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o gynhyrchu incwm, rhannu gwasanaethau gyda phartneriaid lle bynnag bosib, sbarduno mentrau effeithlonrwydd, a hyrwyddo popeth sydd gan ein sir unigryw a hardd i'w gynnig!

Efallai y bydd rhai pobl yn gofyn sut y gallwn fforddio gwario arian ar ddatblygiadau newydd pan fyddwn yn torri'r cyllid mewn meysydd eraill, felly dyma ddarn cyflym o'r  gwahanol fathau o gyllido a gawn, a'r hyn y defnyddir ar eu cyfer