Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth yw ein blaenoriaethau a sut ydym ni'n gwneud

Adroddiadau blynyddol: Adroddiad Blynyddol y cyngor a Chynllun Powys yn Un.

Strategaethau a chynlluniau busnes: strategaethau a chynlluniau busnes a gwasanaeth ar gyfer cyfarwyddiaethau, adrannau a gwasanaethau gan gynnwys Cynllun Powys yn Un, Y Strategaeth Gyfalaf a'r Cynllun Rheoli Asedau.

Cynlluniau perfformiad: er enghraifft, cynlluniau perfformiad gwerth gorau ac adroddiadau'r archwiliwr.

Arolygon perfformiad: gwybodaeth perfformiad gan gynnwys, er enghraifft, Asesiadau Perfformiad Cynhwysfawr, Cynllun Powys yn Un, arolygon Perfformiad Cydraddoldeb a chynlluniau gwella perfformiad ar gyfer adrannau.

Strategaethau a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill: Er enghraifft, strategaethau a chynlluniau tai, strategaethau addysg, strategaethau digartrefedd, strategaethau cyswllt cwsmeriaid, strategaethau gostwng troseddau.

Blaen gynllun o Benderfyniadau Allweddol: er enghraifft, blaen gynlluniau gwaith ar gyfer ein Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau Archwilio.

Strategaeth Gyfalaf: Strategaethau a Chynlluniau Cyfalaf ac Asedau.

Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau: Gwybodaeth ar Gynllun Perfformiad Gwerth Gorau'r Cyngor ac am adroddiadau archwilio ac adroddiadau llywodraethu blynyddol.

Adroddiadau'r archwiliwr dosbarth ar y cynllun perfformiad gwerth gorau a dangosyddion perfformiad: er enghraifft o fewn Adroddiadau Archwilio Dosbarth, yr Adroddiad Blynyddol ac Adroddiadau Gwerth Gorau.

Asesiad Perfformiad Cynhwysfawr: Gwybodaeth am yr Asesiad Perfformiad Cynhwysfawr, neu asesiad tebyg.

Adroddiadau archwilio: Adroddiadau archwilio sydd ar gael yn gyhoeddus. 

Trefniadau Ardal Leol: Cytundebau partneriaeth a wnaed gan y Cyngor trwy weithio gyda grwpiau amrywiol a phartneriaethau yn y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol, cymunedol a ffydd.

Gwybodaeth ystadegolWedi'u llunio yn unol â gofynion y Cyngor a gofynion adrannol. Er enghraifft, gwybodaeth am bresenoldeb mewn ysgolion, a phoblogaeth a chyflogaeth.

Asesiadau effaith: Adroddiadau Gweithredol yn cynnwys Asesiadau Effaith (megis Asesiadau Effaith Cydraddoldeb).

Safonau gwasanaeth: Siarter i Gwsmeriaid a safonau gwasanaeth

Cytundebau gwasanaeth cyhoeddus: Cytundebau gwasanaeth cyhoeddus.