Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu
System archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi a ffioedd ar gyfer cael gwared ar wastraff DIY
Oriau Agor
Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher: 9am i 5pm
Dydd Iau a Dydd Gwener: Ar gau
Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 10am i 4pm
Oherwydd amodau gweithredu'r trwyddedau amgylcheddol sy'n ofynnol i weithredu cyfleuster gwastraff, mae'n bosibl y gellir cau gatiau'r safle cyn i'r safle gau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod defnyddwyr y safle wedi gadael eu holl wastraff a'u bod wedi gadael y safle erbyn i'r safle gau, yn hytrach na chyrraedd cyn i'r safle gau.
Gofynnir i breswylwyr sicrhau eu bod yn caniatáu digon o amser i ymweld â'r canolfannau ailgylchu i sicrhau eu bod yn gallu gadael eu gwastraff a'r safle cyn yr amseroedd cau a restrir.
Oriau agor Gwyliau'r Banc
Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu ar agor ar wyliau banc, ac eithrio pan fydd y rhain yn disgyn ar ddyddiau y bydd y ganolfan ar gau (Dydd Iau a Dydd Gwener).
Bydd y safle ar gau ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan.
Ble i ddod o hyd i ni
Stad Ddiwydiannol Ffrwdgrech, Aberhonddu, Powys, LD3 8LAA
Cyfyngiadau
Cyfyngir cerbydau i derfyn o 3.5 tunnell o bwysau uchaf.
Gwiriwch pa gyfyngiadau sy'n bodoli ac a oes angen caniatâd arnoch i gael mynediad i'r safle hwn yma
Cerbydau Masnachol neu Drelars
Ni dderbynnir gwastraff ac ailgylchu Masnachol yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, maent ar gyfer defnydd cartref (domestig) yn unig.
Cysylltwch â'n tîm Ailgylchu Masnachol am opsiynau, neu defnyddiwch gwmni / gorsaf drosglwyddo gwastraff masnachol o'r sector breifat.
Gwnewch gais am drwydded CVT am ddim Trwydded Cerbydau Masnachol ac Ôl-gerbydau (CVT)
Gwastraff Cymysg
Er mwyn sicrhau ein bod yn ailgylchu cymaint â phosibl yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, mae'r Cyngor yn gweithredu polisi 'dim gwastraff cymysg'. Mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i breswylwyr ddidoli eu gwastraff cyn ymweld â'r safleoedd, gan dynnu'r holl ddeunydd ailgylchadwy allan. Bydd staff y safle yn gofyn i unrhyw breswylydd sy'n dod â gwastraff cymysg i'r canolfannau ailgylchu ddidoli'r gwastraff ar y safle.
Os ydych chi'n dod â sbwriel ychwanegol (sachau duon / porffor) ar ôl colli casgliad o fin y ffordd, cofiwch bod modd ailgylchu llawer mwy o ddeunydd megis ffilm blastig ac eitemau trydanol yn y Canolfannau Ailgylchu na thrwy'r casgliad wythnosol o fin y ffordd. Gallwch hefyd sortio'r eitemau hyn i wahanol flychau ailgylchu ar y safle heb eu rhoi yn y sachau sbwriel.
Darllenwch y canllaw ailgylchu A-Y am restr;lawn o'r hyn y gallwch neu na allwch ei ailgylchu yn y Canolfannau Ailgylchu.
Prawf preswylio
Mae trigolion Powys yn talu am ein canolfannau ailgylchu. Efallai y gofynnir i chi ddarparu prawf preswylio (fel bil treth y cyngor neu fil cyfleustodau diweddar, neu drwydded yrru ddilys) cyn cael caniatâd i ollwng unrhyw ddeunydd.
Yr hyn yr ydym yn ei dderbyn
Bwrdd plastr
Rydym yn derbyn bwrdd plastr yn y ganolfan ailgylchu hon.
Asbestos
Ni dderbynnir asbestos yn unrhyw un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi'r Cyngor. Cynghorir preswylwyr i gysylltu â chwmni sydd â thrwydded addas i gael gwared ar y deunydd hwn.
Popeth arall
Defnyddiwch y ddolen isod i ganfod pa ddeunyddiau sy'n cael eu derbyn trwy gasgliad ochr y ffordd neu Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi'r Cyngor.
A - Y o wastraff ac eitemau i'w hailgylchu
Cerddwyr
Am resymau iechyd a diogelwch, mae mynediad i gerddwyr wedi'i gyfyngu yn yr holl Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu o'r Cartref (HWRC). Os nad oes gennych gerbyd, ac angen cerdded i'r HWRC, cysylltwch â ni o flaen llaw i drefnu dyddiad ac amser addas i ymweld â'r ganolfan, a bydd ein staff yn cwrdd â chi wrth y gât. Cysylltwch â ni yn waste.contracts@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827465.
Gwastraff Gardd
Rydym yn cynnig Casgliad Gwastraff Gardd o ymyl y ffordd am dâl bychan.
Gwnewch gais am Wasanaeth Gwastraff Gardd Casglu gwastraff o'r ardd
Gwastraff Masnachol
Ni dderbynnir gwastraff ac ailgylchu Masnachol yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, maent ar gyfer defnydd cartref (domestig) yn unig.
Cysylltwch â'n tîm Ailgylchu Masnachol am opsiynau, neu defnyddiwch gwmni / gorsaf drosglwyddo gwastraff masnachol o'r sector breifat.