Toglo gwelededd dewislen symudol

Telerau ac Amodau

Amodau a thelerau defnyddio'r wefan:

 

Ymwadiad

Er bod Cyngor Sir Powys yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan yn fanwl-gywir, allwn ni ddim sicrhau y bydd y wybodaeth, y nwyddau, y gwasanaethau na'r graffeg gysylltiedig sy'n cael eu cyhoeddi ar y wefan yma yn fanwl-gywir, yn ddibynadwy, o natur orffenedig nac yn addas. Ni all Cyngor Sir Powys, ei weithwyr, ei gyflenwyr na phartïon eraill a fu'n ymwneud â chreu a darparu'r wefan yma fod yn atebol am unrhyw ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, arbennig neu ddilynol am golled neu anghyfleustra yn sgil dibynnu ar gynnwys y wefan neu'n codi o ddefnyddio'r wefan yma.

 

Hygyrchedd

Y nod yw gwneud y safle mor hwylus i gymaint â phosibl o bobl ei ddefnyddio.  Ein nod yw cyrraedd Safonau W3C WCAG lle bo modd (WCAG 2.0 ar hyn o bryd).

 

Cyfryngau Cymdeithasol

Sut rydym yn defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol

 

Telerau ac amodau defnyddio'r wefan

Mae Cyngor Sir Powys yn darparu'r wefan hon yn amodol ar y telerau a'r amodau canlynol:

  • Mae eich defnydd o'r safle hwn yn ffurfio'ch derbyniad o'r telerau a'r amodau hyn gan ddechrau o'r dyddiad yr ydych yn defnyddio'r wefan gyntaf. Mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i newid y telerau a'r amodau hyn unrhyw bryd trwy bostio unrhyw newidiadau ar-lein. Mae parhau i ddefnyddio'r safle hwn wedi i ni bostio unrhyw newidiadau ar-lein yn ffurfio'ch derbyniad o'r telerau a'r amodau sydd wedi'u haddasu.
     
  • Mae gennych hawl i ddefnyddio'r wefan yma at eich dibenion personol ac anfasnachol eich hun. Ni chewch gopïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, postio, darlledu neu drawsyrru unrhyw ran o'r deunydd mewn unrhyw ffordd ar wahân i'ch defnydd anfasnachol chi eich hun. Mae gofyn cael caniatâd ysgrifenedig y Cyngor i'w ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
     
  • Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan dim ond at ddibenion cyfreithiol ac nid i ymyrryd â hawliau neu gyfyngu neu atal defnydd a mwynhad o'r wefan hon gan unrhyw drydydd parti. Ni chewch achosi unrhyw flinder, anghyfleustra na phryder di-angen i unrhyw drydydd parti. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad sy'n anghyfreithlon, difenwol neu gamdriniol, neu ymddygiad a allai achosi gofid, anghyfleustra, niwsans, neu fygythiad i unrhyw un, yn ogystal â thrawsyrru cynnwys anllad, bygythiol neu dramgwyddus ac amharu ar lif y ddialog o fewn y wefan yma.
     
  • Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill nad ydynt o angenrheidrwydd yn cael eu rhedeg gan y Cyngor. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, ac nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd a allai godi o ganlyniad i ddefnyddio gwefannau o'r fath.
     
  • Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth a'r deunydd ar y wefan hon yn gywir ac yn fanwl, ond nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd am gamgymeriadau neu hepgoriadau, ac nid yw'r Cyngor chwaith yn gwarantu y byddwch yn gallu defnyddio'r wefan yn ddi-dor. Mae'r Cyngor yn darparu'r deunyddiau sy'n cael eu cyhoeddi ar ei wefan ar y sail ei fod yn ymwadu pob gwarant o ran deunyddiau o'r fath, boed hynny'n ddatganedig neu'n ymhlyg. Nid yw'r Cyngor, ei weithwyr, ei gyflenwyr na darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion busnes, na cholledion refeniw neu elw na difrod arbennig, boed uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ddilynol, o ganlyniad i gyhoeddi'r deunydd ar y wefan hon neu trwy ddefnyddio'r wefan hon.
     
  • Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawliau hawlfraint a chronfa ddata ar y wefan hon a'i chynnwys yn perthyn i'r Cyngor neu wedi'u trwyddedu ganddo ac fel arall yn cael eu defnyddio gan y Cyngor yn unol â'r caniatâd a geir mewn deddfau perthnasol.
  • Mae gan y Cyngor yr hawl i olygu, i wrthod postio, neu i symud unrhyw ddeunyddiau sydd wedi'u cyflwyno neu'i bostio ar y wefan yma.  Nid yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunyddiau sy'n cael eu postio ar y wefan gan drydydd parti. Eiddo'r trydydd parti dan sylw yw unrhyw farn, cyngor, datganiad, cynnig neu wybodaeth arall sy'n cael ei bostio ganddo ar wefan y Cyngor. Nid yw'r Cyngor yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am fanwl-gywirdeb deunydd unrhyw drydydd parti.
     
  • Cyfreithiau Cymru a Lloegr sy'n llywodraethu'r telerau a'r amodau yma. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o'r amodau a'r telerau hyn yn destun awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr. 
     
  • Os oes unrhyw beth ar y wefan hon yn achosi pryder, rhowch wybod i ni.
     
  • Os ydych yn anfodlon ag unrhyw ran o'r wefan yma, neu ag unrhyw un o delerau ac amodau defnyddio'r safle, rhowch y gorau i ddefnyddio'r wefan ar unwaith.
     
  • Os ceir bod unrhyw rai o'r telerau a'r amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu na ellir eu gorfodi fel arall, yna i'r graddau y bydd unrhyw amod yn anghyfreithlon, yn annilys neu na ellir eu gorfodi fel arall, bydd yn cael ei ddileu o'r telerau a'r amodau. Ni fydd yn effeithio ar y cymal hwn a gweddill y telerau a'r amodau.