Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed) Addysg Blynyddoedd Cynnar
Mae gan bob plentyn hawl i dderbyn hyd at bum tymor o addysg blynyddoedd cynnar rhan amser cyn dechrau addysg orfodol. Cynigir hon mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cael eu hariannu, gan gynnwys Grwpiau Chwarae, Cylch meithrin, ysgolion a meithrinfeydd dydd.
Mae athro cymwys/athrawes gymwys yn ymwneud yn uniongyrchol â phob lleoliad cymeradwy. Os na all y lleoliad a ddewiswch gynnig y nifer uchaf o oriau, sef 10 awr, o addysg blynyddoedd cynnar, gallwch ddewis defnyddio gweddill yr oriau gyda darparwr arall.
I ddod o hyd i'ch lleoliad cymeradwy agosaf, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Ieuenctid a Theuluoedd Powys.
Am wybodaeth ar y Cynnig Gofal Plant i Gymru, ewch i dudalen Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Sir Powys yma.
Sylwch mai Cyngor Sir Ceredigion sy'n gweinyddu'r cynllun hwn yng Nghanolbarth Cymru ac nid Cyngor Sir Powys. Ewch i dudalen Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am fanylion cyswllt a sut i wneud cais.
Os ydych am wneud cais i newid y sesiynau a ddyrannwyd i'ch plentyn mewn lleoliad cyn ysgol ym Mhowys, llenwch y ffurflen Ffurflen Ddiwygio Cyn Ysgol Blynyddoedd Cynnar.
Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r Awdurdod Lleol I sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad i Addysg Blynyddoedd Cynnar rhan amser am ddim o ddechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed. Gall pob plentyn sy'n gymwys dderbyn o leiaf 10 awr yr wythnos o Addysg Blynyddoedd Cynnar wedi'i hariannu os byddan nhw'n defnyddio lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo a'i ariannu.
Bydd plant sy'n gymwys ar gyfer addysg rhan amser am ddim yn derbyn lle wedi'i ariannu dim ond os ân nhw i leoliad addysgol cyn-ysgol cymeradwy wedi ei ariannu.
Mae'r gwybodaeth isod yn dangos pryd bydd eich plentyn yn dod yn gymwys i dderbyn hyd at 5 tymor o ddarpariaeth ran-amser cyn ysgol wedi'i ariannu:
- 1 Ebrill a 31 Awst - Dechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Medi
- 1 Medi a 31 Rhagfyr - Dechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr
- 1 Ionawr a 31 Mawrth - Dechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ynglŷn â darpariaeth 10 awr wedi'i hariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed
Rhwng pa ddyddiadau y ganwyd eich plentyn:
Rhwng 01/09/2020 a 31/08/2021
Bydd lleoedd ar gyfer y rownd derbyn hon yn agor ar 1 Mawrth 2023 ac yn cau ar 31 Mawrth 2023. Bydd lleoedd gyda'r darparwyr addysg Blynyddoedd Cynnar yn cael eu dyrannu ar y diwrnod Cynnig Derbyn Cyn Ysgol, sef dydd Gwener, 29 Medi 2023.
Os hoffech chi wneud cais am sesiynau Addysg Blynyddoedd Cynnar, fel rhan o'r cynnig addysg Blynyddoedd Cynnar wedi'i Ariannu, llenwch y ffurflen dderbyn trwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Wneud cais am le cyn-ysgol yma
I gael rhagor o wybodaeth yngylch y Cynnig Gofal Plant, ewch i wefan Cynnig Gofal Plant Cymru
Sylwch: bydd unrhyw gais a dderbynnir ar ôl 31 Mawrth 2023 yn cael ei drin fel cais hwyr, ac ni chaiff ei brosesu nes y bydd pob un o'r rheiny a gyrhaeddodd mewn pryd yn cael eu dyrannu.
Rhwng 01/09/2021 a 31/08/2022
Bydd lleoedd ar gyfer y rownd derbyn hon yn agor ar 1 Mawrth 2024 ac yn cau ar 31 Mawrth 2024. Bydd lleoedd gyda'r darparwyr addysg Blynyddoedd Cynnar yn cael eu dyrannu ar y diwrnod Cynnig Derbyn Cyn Ysgol, sef dydd Llun, 30 Medi 2024.
Os hoffech chi wneud cais am sesiynau Addysg Blynyddoedd Cynnar, fel rhan o'r cynnig addysg Blynyddoedd Cynnar wedi'i Ariannu, llenwch y ffurflen dderbyn trwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Wneud cais am le cyn-ysgol yma
I gael rhagor o wybodaeth yngylch y Cynnig Gofal Plant, ewch i wefan Cynnig Gofal Plant Cymru
Sylwch: bydd unrhyw gais a dderbynnir ar ôl 31 Mawrth 2024 yn cael ei drin fel cais hwyr, ac ni chaiff ei brosesu nes y bydd pob un o'r rheiny a gyrhaeddodd mewn pryd yn cael eu dyrannu.
Rhwng 01/09/2022 a 31/08/2023
Bydd lleoedd ar gyfer y rownd derbyn hon yn agor ar 1 Mawrth 2025 ac yn cau ar 31 Mawrth 2025. Bydd lleoedd gyda'r darparwyr addysg Blynyddoedd Cynnar yn cael eu dyrannu ar y diwrnod Cynnig Derbyn Cyn Ysgol, sef dydd Mawrth, 30 Medi 2025.
Os hoffech chi wneud cais am sesiynau Addysg Blynyddoedd Cynnar, fel rhan o'r cynnig addysg Blynyddoedd Cynnar wedi'i Ariannu, llenwch y ffurflen dderbyn trwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Wneud cais am le cyn-ysgol yma
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF, 2 MB) (Yn agor ffenestr newydd)
I gael rhagor o wybodaeth yngylch y Cynnig Gofal Plant, ewch i wefan Cynnig Gofal Plant Cymru
Sylwch: bydd unrhyw gais a dderbynnir ar ôl 31 Mawrth 2025 yn cael ei drin fel cais hwyr, ac ni chaiff ei brosesu nes y bydd pob un o'r rheiny a gyrhaeddodd mewn pryd yn cael eu dyrannu.
Cysylltiadau ar gyfer ymholiadau ynghylch derbyniadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma