Toglo gwelededd dewislen symudol

Digartref neu mewn perygl o golli'ch cartref?

Os credwch y gallech fod mewn perygl o golli'ch llety neu nad oes gennych unrhyw le i fyw ar hyn o bryd, dylech gysylltu â Gwasanaeth Tai'r Cyngor ar unwaith.

Pan gysylltwch â ni, bydd Swyddog Cyswllt Cyntaf yn cymryd manylion ac yna byddwch yn cael gweithiwr achos i'ch helpu chi.

Digartref mewn Argyfwng?  Os ydych yn ddigartref y tu allan i oriau swyddfa arferol, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth Allan o Oriau.

Rydych chi'n ddigartref os:

  • Nad oes gennych unrhyw le i fyw'n gyfreithlon yn unrhyw le yn y Byd
  • Cytunir nad yw'n rhesymol ichi fyw yn eich cartref
  • Mae gennych rywle i fyw ond ni allwch gael mynediad iddo
  • Rydych chi'n wynebu trais / aflonyddu, neu rydych mewn perygl o drais / aflonyddu
  • Rydych chi'n byw mewn lle fel cwch neu garafán, a does unman i chi ei angori neu barcio fel y gallwch chi fyw yno

Efallai eich bod mewn perygl o fod yn ddigartref os ydych chi'n mynd i golli'ch cartref cyn pen 56 diwrnod.  Efallai y gofynnir i chi ddangos prawf o'ch digartrefedd, ee y rhybudd a gyflwynwyd gan eich landlord. Byddwn ni a'n partneriaid yn gweithio gyda chi i geisio eich atal rhag dod yn ddigartref.

 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau